Artistiaid Cymraeg yng ngŵyl werin Caergrawnt 

Ddyddiau ar ôl rhyddhau ei sengl newydd ‘Miniyamba / Gadael y Dref’ ar y cyd gyda Gruff Rhys, mae N’famady Kouyaté wedi datgelu y bydd yn perfformio yng Ngŵyl Werin Caergrawnt 2022.

Cynhelir yr ŵyl rhwng 28 a 31 Gorffennaf gydag artistiaid fel Seasick Steve, Passenger a Suzanne Vega ymysg y prif enwau sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma.

Hefyd ar y don gyntaf o enwau i’w cyhoeddi mae’r artistiaid Cymraeg Tapestri a VRï. 

Gallwch ffeindio mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar eu gwefan.