Band metal du yn rhyddhau EP (*rhybudd iaith gref*)

Mae’r unig fand ‘metal du eithafol’ iaith Gymraeg, Ufferndaith, wedi rhyddhau eu EP cyntaf ers dydd Nadolig.

‘Cyn Ddued a Ffwc’ ydy enw’r EP chwe thrac sydd wedi’i ryddhau ar safle Bandcamp y grŵp.

Yn ôl Ufferndaith, gan weithio yn nhywyllwch ôl-ddiwydiannol Merthyr Tudful, mae’r grŵp wedi cymryd fformat metal du traddodiadol a’i fewnosod gyda’r holl ddicter, casineb a thlodi a adawodd y meistri haearn.

Yn ogystal â gorffennol diwydiannol Merthyr, mae’r geiriau’n cynnwys elfennau o chwedloniaeth Celtaidd ehangach Cymry, ac mae canu yn y Gymraeg yn rhan anatod o Ufferndaith – yn symbol o barhad y frwydr dros yr hawl i fodoli.

Mae cerddoriaeth y grŵp eisoes wedi denu peth sylw ar y cyfryngau, gyda Rhys Mwyn yn eu chwarae ar BBC Radio Cymru ac Adam Walton yn eu chwarae ar BBC Radio Wales.