Wedi cyfnod cymharol dawel, mae Band Pres Llareggub yn ôl gyda sengl newydd sy’n rhagflas o albwm llawn fydd allan ym mis Awst.
A hwythau wedi rhyddhau dau albwm o ganeuon gwreiddiol dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r grŵp yn dychwelyd i’w gwreiddiau y tro hwn gyda fersiwn newydd o glasur o record hir Gymraeg, sef ‘Pwy Sy’n Galw?’ gan y Big Leaves.
Cyn hynny mae’r sengl ‘Synfyfyrio’ yn cael ei rhyddhau ar 23 Gorffennaf fel tamaid i aros pryd nes yr albwm, gyda Mared Williams yn westai arbennig ar y trac.
Cyfyrs Furrys
Ffrwydrodd Band Pres Llareggub i amlygrwydd nôl yn 2015 wrth ryddhau eu fersiwn eu hunain o albwm arloesol y Super Furry Animals, Mwng.
Gwerthodd pob copi o’r fersiwn newydd feinyl mewn ychydig ddyddiau ac aeth y band ymlaen i headleinio Maes B y flwyddyn ganlynol. Ers hynny maen nhw’n cael eu cydnabod fel un o fandiau byw gorau Cymru ac wedi perfformio yn y rhan fwyaf o ddigwyddiadau mwyaf y wlad – gan gynnwys Gŵyl Rhif 6, Gwobrau’r Selar, Boomtown, Canolfan y Mileniwm, BBC Biggest Weekend, ac efo cerddorfa Cenedlaethol y BBC.
Bu iddynt hefyd gynrychioli Prydain drwy berfformio yn y French Quarter Festival yn New Orleans yn 2019, ac ennill gwobr BAFTA Cymru am raglen yn dogfennu’r daith.
A hwythau wedi rhyddhau dau albwm gwreiddiol ers ‘Mwng’, sef ‘Kurn’ [2016] a ‘Llareggub’ [2017] maent wedi dewis dychwelyd at wneud ail-drefniant o glasur Gymraeg arall y tro hwn.
Albwm orau’r iaith Gymraeg?
Roedd Big Leaves, a ffurfiodd yn Waunfawr ger Caernarfon, yn un o fandiau amlycaf Cymru trwy’r 1990au hyd iddynt chwalu yn 2003, ond ‘’Pwy Sy’n Galw?’ a ryddhawyd yn 2000 oedd eu hunig albwm cyfan gwbl yn yr iaith Gymraeg.
Yn ôl y gŵr sy’n bennaf gyfrifol am ffurfio Band Pres Llarebbub, mae’r albwm gyda’r gorau i’w ryddhau yn y Gymraeg, os nad y gorau.
“‘Pwy sy’n Galw?’ gan Big Leaves yw’r albwm orau iaith Gymraeg erioed.. heb os… a dyna pam neshi ddewis neud fersiwn gwbl newydd ohono…” meddai Owain Gruffudd Roberts, arweinydd Band Pres Llareggub.
“Beganifs oedd y band cyntaf i mi weld yn fyw erioed pan oni ryw 9 oed yn Ysgol y Garnedd. Bu iddynt wneud marc arna’i”
“Bu i ‘Mwng’ [gan Super Furry Animals] a ‘Pwy sy’n Galw’ ddod allan yn agos iawn i’w gilydd. Ac er fod Mwng yn gasgliad gwych o ganeuon, mi ydw i o’r farn fod “Pwy Sy’n galw” efo caneuon hyd yn oed gwell!”
Enwau amlwg
Y cynllun gwreiddiol oedd i ryddhau’r albwm yn 2020 i ddathlu ugain mlynedd ers y gwreiddiol. Ond yn amlwg, oherwydd Covid-19 bu’n rhaid newid cynllun.
Mae’r broses o ail-drefnu ac ail-recordio’r albwm wedi bod yn un llafurus ac anodd, nid yn unig y gwaith ail-drefnu’r holl gerddoriaeth ar gyfer ensemble pres ond hefyd y ffaith fod Owain, y cyfansoddwr a chynhyrchydd, yn byw yn Llundain.
Mae’r albwm wedi gwneud defnydd o dros 16 gwahanol leoliad ac wedi dibynnu’n drwm ar dechnoleg fodern digidol i allu rhannu traciau’n ddigidol dros y we.
Mae’r artistiaid gwadd ar yr albwm yn dangos doniau amryw o gantorion y mae’r band wedi cyd-weithio gydag o’r blaen, fel Mared Williams a Tara Bethan.
Ond mae hefyd lleisiau newydd i’w clywed ymysg y traciau, gan gynnwys neb llai nag Yws Gwynedd (sydd yn ffan enfawr o Big Leaves), a hefyd Ifan Pritchard o’r band Gwilym, Katie Hall o Chroma a Rhys Gwynfor. Fe gawn Eadyth Crawford yn dangos ei doniau ar ‘Meillionen’ a hefyd ei chwaer Kizzy ar y trac canlynol, ‘Whistling Sands’.
Rhestr Traciau ‘Pwy Sy’n Galw?’ gan Band Pres Llareggub
1 Dilyn Dy Drwyn
2 Pryderus Wedd (gydag Ifan Pritchard)
3 Meillionen (gydag. Eadyth)
4 Whistling Sands (gyda Kizzy Crawford)
5 Blêr (gydag Yws Gwynedd)
6 PhD (gyda Katie Hall)
7 Synfyfyrio (gyda Mared Williams)
8 Byw Fel Ci (gyda Rhys Gwynfor)
9 Pwy Sy’n Galw?
10 Barod i Wario
11 Seithenyn (gyda Tara Bethan)