Be sy ar Y Cledrau

Pedair blynedd ar ôl rhyddhau eu halbwm cyntaf, ‘Peiriant Ateb’, mae’ Y Cledrau yn ôl gyda sengl newydd sbon danlli.

‘Hei Be Sy’ ydy enw’r trac newydd gan y pedwarawd o ardal y Bala ac Ynys Môn, ac fe’i rhyddhawyd ar label I KA Ching ddydd Gwener diwethaf, 14 Mai.

Mae’n gân sy’n llawn pytiau geiriol ffraeth, ynghyd a’r angst meloncolig sy’n amlwg trwy holl gynnyrch y grŵp.

Prif ganwr Y Cledrau, Joseff Owen, sy’n gyfrifol am gyfansoddi geiriau’r gân newydd, ac eglura fod y trac yn cymysgu geiriau gorffwyll llif yr ymwybod gyda sain caled a riffs cofiadwy ar y gitâr.

“Mae’r geiriau’r pennillion reit ffrantig, ‘llif yr ymwybod’ math o beth, yn neidio o un delwedd i’r llall” meddai Joseff wrth Y Selar.

“Ma’ ‘ne rhyw deimlad nerfus yn y penillion, fel sefyll ar yml dibyn, ac oni’n hoffi’r syniad o gyrraedd ‘uchafbwynt’ dim ond i glywed dywediadau gwag, ffug-gysurlon y gytgan.

“Efallai mai’r syniad oedd rhoi cyd-destun o ofn i’r geiriau cliché o obaith fel ‘fel ‘ne mai’ a ‘paid a sôn’, a strwythuro’r alaw a’r offeryniaeth ei hun yr un modd.”

Recordiwyd ‘Hei Be Sy’ yn Stiwdio Sain, Llandwrog gyda’r cynhyrchydd Ifan Emlyn Jones.

Ochr yn ochr â’r sengl newydd mae’r grŵp wedi rhyddhau fideo ar gyfer y trac sy’n serennu’r actor amlwg, Llyr Evans, a Dafydd Huws.

Yn ôl y label, bydd mwy o newyddion am gynnyrch pellach gan Y Cledrau yn fuan – cadwch olwg am hynny!

Dyma fideo’r sengl newydd: