‘Ble Pierre’ – ail sengl Tacsidermi

Mae’r ddeuawd newydd o Gaerfyrddin, Tacsidermi, wedi rhyddhau ei hail sengl ers dydd Gwener.

‘Ble Pierre’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Libertino, ac mae’n dilyn eu sengl gyntaf, ‘Gwir’, a ryddhawyd fis Rhagfyr diwethaf.

Tacsidermi ydy prosiect newydd Gwenllian Anthony, sef basydd y grŵp Adwaith sydd wedi creu cryn argraff yng Nghymru ac yn rhyngwladol dros y blynyddoedd diwethaf.

Ail aelod y grŵp ydy’r aml-offerynwr Matthew Kilgariff, sydd wedi perfformio fel cerddor sesiwn mewn gigs Adwaith yn y gorffennol.

Fe ffurfiodd y ddau swigen yn ystod y cyfnod clo llynedd gan fynd ati i jamio, cyfansoddi a recordio yn stiwdio Matthew yng Nghaerfyrddin.

Yn ôl Libertino, mae ‘Ble Pierre’ yn gân bop ysblennydd gyda phob nodyn yn cael eu chwarae gyda phŵer ac yn atseinio hafau di-hid a rhamantus.

Yn ogystal â’r ddau aelod craidd, mae Tacsidermi wedi troi at dalentau David Newington (Boy Azooga) ar y drymau, a chymysgu Matthew Evans (Keys) i gyfrannu at y trac. Yn ôl y label, y canlyniad ydy priodas berffaith rhwng Jane Birkin / pop 60au Ffrengig Serge Gainsbourg, cerddoriaeth freuddwydiol y 90au gan Stereolab, The Happy Mondays a churiad canol Balearic.

Mae’r ddeuawd hefyd wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y sengl sydd wedi’i ffilmio gan aelod arall Adwaith, Hollie Singer. Mae modd gwylio’r fideo ar sianel YouTube Recordiau Libertino. Dyma fideo: