Mae’r cerddor o Abertawe, Geraint Rhys, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf heddiw, 12 Mawrth.
Mae Geraint yn gyfarwydd fel canwr protest dwyieithog, ac mae ei drac Saesneg newydd, ‘Who Are You’ wedi’i anelu’n glir at lywodraeth San Steffan.
Mae’r sengl yn dair munud a 32 eiliad o bync roc rhwystredig, sydd nodweddiadol o’r datganiadau gwleidyddol a geir yn ei yn aml yn ei ganeuon.
Wrth sgwrsio gyda’r Selar, dywedodd Geraint bod neges y trac yn glir, a hefyd y dylanwad mae’n gobeithio ei gael gyda’r gân.
“Mae’r trac yn bendant yn cael eu targedu dros y ffin tuag at y dosbarth cymdeithasol a gwleidyddol er mwyn ysgogi pobl yng Nghymru i feddwl pa hawl sydd gyda Westminster i siarad dros Gymru” meddai’r cerddor.
“Ond hefyd mae’r teitl yn amlochrog oherwydd dwi hefyd eisiau anelu’r cwestiwn ‘Pwy wyt ti’ tuag at bobl Cymru i ofyn pwy yn union ydym ni fel Cymry eisiau bod yn y dyfodol.
“Hefyd, does dim llawer o ganeuon am annibyniaeth i Gymru yn y Saesneg felly roedd dewis yr iaith am y trac yn bwrpasol ac felly’r bwriad yw ceisio dal sylw pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg tuag at yr ymgyrch dros annibyniaeth.”
Bloedd o rwystredigaeth
O glywed Geraint yn siarad mae ei rwystredigaeth gyda’r sefyllfa wleidyddol ar hyn o bryd yn amlwg,
“Bloedd o rwystredigaeth yw’r gân. Yn bendant mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos y gap ym meddylfryd y ddwy wlad a sut bydd Cymru byth yn flaenoriaeth, ac mae hyn wedi cael ei adlewyrchu gyda’r twf yn aelodaeth Yes Cymru.
“Mae fel pe bai bod ’na awyrgylch positif yn adeiladu ac felly nawr oedd yr amser perffaith i greu rhywbeth.
“Oherwydd Covid hefyd, bydd rhaid recordio popeth eto yn fy stafell wely ond mae hyn wedi bod yn fudd oherwydd dwi wedi gorfod cyfyngu fy hun a chreu rhywbeth eithaf cyflym i adlewyrchu’r bwrlwm a’r brys yn y mudiad.”
Fideo torfol
Mae’r cerddor wedi creu a chyhoedd fideo i gyd-fynd â’r sengl – rhywbeth sy’n nodweddiadol ohono.
Ac er gwaetha’r cyfyngiadau presennol, mae wedi llwyddo i gasglu cyfraniadau i’r fideo gan bobl amrywiol ar ôl iddo wneud cais ar ei gyfryngau cymdeithasol am glipiau .
“Ie, wnes i wneud shout out ar Twitter ac roedd yn wych i weld cymaint o bobl oedd yn barod i rannu eu fideos o’r gwahanol ymgyrchoedd [Yes Cymru] a hefyd ohonyn nhw’n gwneud rhywbeth sydd yn cynrychioli annibyniaeth iddyn nhw.
“Os mae’r mudiad yn mynd i fod yn llwyddiannus mae rhaid i ni fod yn gymuned gyfeillgar ond yn benderfynol ac felly gobeithio bod y fideo’n dangos tymed fach o’r gymuned yma.”
Dyma’r fideo: