BOI o BOI

Mae comebacks cerddorol bob amser yn bethau sy’n gwneud i chi wingo rhyw ychydig.

Fel arfer mae bandiau’n reit dda am synhwyro pryd maen nhw wedi cyflawni eu potensial, neu chwythu eu plwc. Dyna pam, mae’n debyg, fod y mwyafrif o comebacks yn tueddu i fod yn aflwyddiannus – mae’n anodd ail-ddarganfod yr hud, ac yn aml iawn mae’r gynulleidfa wedi symud ymlaen.

Yr hyn sy’n llawer mwy diddorol ydy gweld gweld cyn aelodau bandiau’n dod ynghyd eto i weithio ar brosiect newydd, yn enwedig felly os ydyn nhw’n tynnu egni ffresh i mewn o gyfeiriadau eraill. Dyna’n union mae Rhodri Sion ac Osian Gwynedd wedi’i wneud wrth ffurfio BOI.

Roedd Rhodri ac Osian yn un hanner un o grwpiau mwyaf Cymru rhwng diwedd y 1990au a dechrau’r Mileniwm – y grŵp a ffurfiodd yn wreiddiol fel Beganifs, ond a ddatblygodd yn ddiweddarach i fod yn Big Leaves.

Nawr, maen nhw nôl gyda band newydd sydd hefyd yn cynnwys tri o gerddorion amlwg a thalentog iawn sef Heledd Watkins o HMS Morris, Ifan Jones o Candelas a Dafydd Owen gynt o Bob a Sibrydion. Enw’r band newydd ydy BOI, ac ar ôl rhyddhau cwpl o senglau i roi blas, mae eu halbwm cyntaf allan ar ddydd Gwener yma, 25 Mehefin ac yn ysgogi cryn gyffro.

Pedigri penigamp

Mae rhywun yn petruso cyn disgrifio band newydd fel ‘siwpyr grŵp’, gan ei fod o’n derm eitha diog ac wel, bach yn naff…ond o ystyried pedigri aelodaeth BOI, mae’n anodd dadlau gyda’r ffaith eu bod nhw’n gasgliad anhygoel o gerddorion. Wrth sgwrsio gyda’r Selar fe eglurodd y prif ganwr, Rhodri, sut ffurfiodd y grŵp.

“Odd Osh a fi wedi bod yn cydweithio ar gerddoriaeth i gynhyrchiad theatr efo’n gilydd dwi’n meddwl, felly mewn cysylltiad” meddai Rhodri wrth Y Selar

“Dwi’n meddwl iddo fo sôn am betha oedd gynno fo, syniada’ a ballu, a tybad fysa gen i ddiddordeb mewn gneud rwbath efo fo. Wrth gwrs nes i neidio ar y cyfle.

“Wedyn oeddan ni’n trafod sut fysa ni’n gallu gwireddu hyn….o ran recordio, ac yn fwy pwysig fyth o ran chwarae’n fyw.

“Ma dechra rwbath bob amser yn her dydi? A ma cael ryw fath o weledigaeth o lle ma rhywun isio cyrradd yn hollbwysig, oeddan ni’n gwbod bo ni isio quality, ac o ran cerddorion oedd Heledd, Ifan a Dafydd i gyd ar dop y wish list.

“Lwcus i ni, mi wnaethon nhw gytuno i fod yn ran o’r band. Heb swnio fel knob, dwi’m yn keen ar ddisgrifio fo fel project, band ’da ni!

A band da iawn hefyd ar sail y caneuon sydd eisoes wedi gweld golau dydd – y senglau ‘Cael Chdi Nôl’ a ‘Ribidires’, dau drac sy’n sicr yn dod a dŵr i’r dannedd wrth feddwl am yr albwm, Coron a Chwinc. Ond o ble ddaeth yr enw BOI?

“O ran yr enw, pryd oeddan ni’n sgwrsio ar Whatsapp odd y gair ‘boi’ ma’n dod i fyny yn y feed…” eglura Rhodri.

“Felly dyna pam aethon ni efo hwnnw, oedd o’n teimlo’n reit addas ac oeddwn i’n gallu gweld o’n gweithio’n weledol.”

Ail gynau tân

Mae Osian wedi parhau’n weithgar yn y byd cerddoriaeth ers i Big Leaves ddod i ben yn 2003. Bu’n aelod o’r grŵp dan arweiniad yr actor Rhys Ifans, The Peth, cyn ffurfio Sibrydion gyda’i frawd Mei, ac yn fwy diweddar mae wedi bod yn perfformio ar lwyfannau Cymru a thu hwnt fel aelod o fand byw Gruff Rhys, a hefyd Mr.

Ond penderfynodd Rhodri ar y llaw arall, oedd heb os ar y cyd a Ceri Cunnington o Anweledig efallai yn hawlio coron ‘ffryntman gorau Cymru’ ar ddiwedd y 1990au, gymryd hoe o gerddoriaeth ar ôl i Big Leaves chwalu. Yn wir, BOI ydy ei fand cyntaf ers hynny wrth iddo ganolbwyntio ar ei yrfa actio.

Mae ‘bach o egwyl’ yn understatement, dwi ddim wedi canu ers Big Leaves” meddai wrth Y Selar

“O’n i ddim yn teimlo mod i isio ymroi fy hun i rywbeth cerddorol am dipyn ar ôl hynny, doedd yr awydd ddim yna, doedd gweld y band ’ma – oedd wedi bod yn gymaint o ran o fy mywyd – yn dod i ben ddim yn hawdd, a dwi’n gwybod be mae’n gymryd i fod mewn band sydd isio llwyddo.“

Pam fod yr amser yn iawn rŵan felly, bron i ddau ddegawd ers beltio tiwns fel ‘Seithennyn’ a ‘Meillionen’ ar lwyfan am y tro olaf?

“Popeth dwi’n neud, dwi’n neud o’r galon ac o’r enaid – ‘go hard or go home’, a dwi rioed wedi stopio perfformio rili.

“Dwi ddim yn ofn risg, dwi ’di arfar, mae o wastad wedi bod yn rhan o ‘ngyrfa i. Ma’r cysylltiad s’gen i efo Osh yn un arbennig, dwi’n trystio fo yn gerddorol ac yn fwy na hynny, fel ffrind. Felly oedd y risg yma o weld pa fath o sain fysa ni’n ‘i ddatblygu efo’n gilydd, blynyddoedd yn ddiweddarach, yn apelio, yn irresistible.

“Mae’n hawdd bod yn paranoid am ‘adael y gorffennol lle mae o, ond mae BOI yn wahanol fand, ddim comeback ydi hwn. Dwi’m yn nostalgic fel person, ma sbio ymlaen yn lot mwy diddorol na sbio nôl.”

Clywch clywch, ac mae sŵn BOI yn gyfoes iawn ac efallai’n llenwi bwlch bach taclus ymysg y bandiau Cymraeg eraill sy’n weithgar ar hyn o bryd.

Triciau newydd

Wrth gwrs, mae deunaw blynedd yn amser hir mewn unrhyw faes, ond efallai fod hynny’n fwy gwir yn y byd cerddoriaeth nag unrhyw un arall. Mae’r diwydiant wedi newid yn llwyr ers 2003, ac er yn cydnabod hynny, dywed Rhodri bod digon yn gyfarwydd iddo hefyd ar ôl yr ysbaid…neu ‘drwmgwsg’ efallai y dylen ni ddweud.

“Yndi mae o wedi newid ond ma na betha cyfarwydd iawn yna hefyd o ran proses” meddai.

“Ma Osh yn pasio’r caneuon mae o wedi eu cyfansoddi ymlaen i fi, wedyn dwi’n gwrando ac yn byw efo nhw am dipyn ac yn dod i nabod nhw cyn mynd ati i ’sgwennu geiriau iddyn nhw. Weithia’ ma hyn yn digwydd yn rili cyflym, weithia yn ofnadwy o ara.”

“Ma’r broses o wneud dipyn o’r stwff yn ddigidol ac o bell wrth gwrs yn hollol newydd i mi, sydd wedi arfar efo’r ffordd old skool, reel to reel o wneud petha, byw efo dy fand a datblygu caneuon mewn stiwdio efo pawb efo’i gilydd ond ma’r posibliadau sy’n agor i fyny yn rhoi lot o ryddid a hyblygrwydd, sy’n handi mewn global pandemic!”

Ydy, mae pawb wedi gorfod dysgu triciau newydd dros y flwyddyn a mwy a fu, ond mae’n debyg bod y ffordd newydd, hirbell o weithio mae pawb wedi gorfod mabwysiadu’n dod a’i fanteision hefyd. Mae hynny’n wir am BOI, gyda’r aelodau i gyd yn chwarae rhan yn y broses ysgrifennu a recordio.

“Ma na lot o yrru ffeils i’n gilydd a phawb o’r band wedyn yn gweithio ar eu darnau nhw, gan rannu’r syniada’ a chreu rwbath mor collaborative â phosib o dan y cyfyngiadau” eglura Rhodri.

“Ma addasu i be sydd o dy flaen di wedi bod, ac yn, hollbwysig – yn enwedig fel ma hi ar y funud.

“Wedi deud hynna, dwi rili’n edrych ymlaen…neu’n gryfach na hynny, yn awchu at gael cyfla i wneud mwy wyneb yn wyneb achos dyna sut ti’n datblygu’r ddeinameg ‘na ac yn cael dy ysbrydoli gan yr unigolion sydd o dy gwmpas di.

“Ma’r sîn gerddorol yn ddiddorol ac yn buzzin ar y funud dwi’n meddwl, does dim un genre sydd i weld yn diffinio petha, ac ma hynny’n iach. Da di da, de? Os di hynna’n pop, rock, indie, gwerin, blah blah…be bynnag.

“Oedd o’n reit ffyni mynd back to basics efo fi ac Osh yn setio fyny stiwdios bach yn tai ein rhieni yn Waunfawr i recordio rhai o’r vocals, a recordio yn ei stiwdio o adra yng Nghaerdydd.

“Wedyn pryd ddaeth y pandemic, nesh i sylwi fod yn rhaid adeiladu sound booth yn y garej. Nesh i sôn gynna mod i’n rhoi popeth i mewn i betha, ac mae’r un peth yn wir am y booth. Nath hyn droi i fewn i dipyn o brosiect, nesh i sdicio glitterball i mewn yna yng nghanol y düwch, ultimate escapism, mae o’n le reit dda i ddianc oddi wrth pawb yn tŷ bob ryw hyn a hyn yn lockdown, a hefyd yn frêc haeddianol iddyn nhw oddi wrtha i… dwi’n gallu bod yn foi reit hectic weithia!”

Ond beth am yr ailgydio yn y canu? Ydy o fel reidio beic?

“Mae ’di bod yn braf dod i nabod y llais canu eto, ymarfer o, ystwytho fo, gweithio ar harmonis, ‘torri fo mewn’ mewn ffordd.

“Gen i waith i’w wneud, mae’n cymryd ages i gael llais yn ôl i fod yn game ready ar gyfer gigs a ballu ond dwi wedi dysgu lot am be sydd angen ei wneud dros y blynyddoedd o gigio ac wedyn actio. Does dim substitute am gigio!

“I mi, be bynnag sy’n digwydd o’r pwynt yma – sydd allan o’n rheolaeth ni rili – dwi’n falch o’r albwm ac yn falch i roi fy enw i’r caneuon, a dyna sy’n cyfri. Dwi’n teimlo ma mond dechra ydan ni a bod na lot mwy i ddod.”

Rheoli disgwyliadau

Diolch i lwyddiant a phoblogrwydd Big Leaves, mae disgwyliadau pobl o albwm cyntaf BOI, a’u gigs pan fydd rheiny’n gallu digwydd, yn siŵr o fod yn uchel. Ychwanegwch at hynny safon y cerddorion eraill yn y grŵp ac mae’r disgwyliadau hynny’n mynd trwy’r to!

Er ei bod hi’n anodd dianc y cymhariaethau gyda Big Leaves oherwydd perthynas y ddau sylfaenydd, mae Rhodri’n credu bod y ddeinameg a sŵn yn ddigon gwahanol.

Ti byth yn gallu mynd yn bell o pwy wyt ti a be ti mewn i nagwyt? Yr un llais sgen i yn amlwg, felly does dim dianc o hwnna.

Be sy gen ti efo perthynas fi ac Osh yw dallt ein gilydd, a ffordd o weithio sy’n gyfarwydd i ni. Ond ma gen ti driegl amser, a phrofiada’ bywyd sy’n cael eu hadlewyrchu yn y geiria’ a’r gerddoriaeth.

“Ma’ ‘na bobl newydd sydd dwi’n meddwl wedi rhoi eu stamp eu hunain ar yr albwm, felly ma’n creu rhywbeth newydd, ma’r alcemi yn wahanol, a ma hynny’n gyffrous a gobeithio’n rhywbeth fedra ni esblygu.”

Ac mewn cyfnod ble mae ystod y genre’s cerddoriaeth Gymraeg mor eang, mae’r neges ynglŷn â’r hyn y gallwn ddisgwyl o ran sŵn BOI yn un cyfarwydd…

“Ma fyny i’r rhai sy’n gwrando benderfynu sut ma nhw’n prosesu’r hyn ma nhw ei glywed, a pha fath o band yda ni.

“Dwi, na’r bands dwi ’di bod yn aelod ohonynt yn y gorffennol, ‘rioed wedi ffitio’n daclus mewn categori, dydi rhan fwyaf o betha diddorol ddim yn, a dwi ddim yn meddwl fod BOI yn chwaith….let the music do the talkin.”

O’r hyn rydym wedi clywed gan y band hyd yma, does dim amheuaeth fod gan BOI ddigon o bethau diddorol i’w ddweud, a gyda’r albwm yn glanio bydd llu o bobl yn awchu i’w gweld nhw, a Rhodri’n arbennig, ar lwyfan byw mor fuan â phosib.

Mae albwm cyntaf BOI, Coron o Chwinc, allan yn ddigidol ac ar CD ar Recordiau Crwn ar 25 Mehefin.

Wythnos diwethaf roedd cyfle cyntaf ar wefan Y Selar i weld perfformiad Rhodri ac Osian o Boi o’r sengl ‘Tragwyddoldeb’ ar lwyfan y Galeri. Mae’n berfformiad gwirioneddol wefreiddiol…felly dyma fo eto!