Mae Breichiau Hir wedi rhyddhau sengl arall o’u halbwm newydd, ers dydd Iau diwethaf 11 Tachwedd.
‘Beth Bynnag Sydd Ar Ôl’ ydy enw’r trac diweddaraf i ollwng o’r albwm, Hir Oes i’r Cof, sydd allan yn swyddogol ddydd Gwener yma, 19 Tachwedd ar label Recordiau Libertino.
“Mae ‘Beth Bynnag Sydd Ar Ôl’ yn trafod y ffordd rydym yn gadael i nostalgia ein tynnu yn hapus i mewn i dwll” eglura Steffan Dafydd, prif leisydd y band:
“…yn ein hudo fel ein bod yn gwrthod ymladd yn ei erbyn, dim ond byw ym myd dychmygol y gorffennol. Mae’r adroddwr yn gwbl wallgof ond yn hapus am hynny.”
Gig lansio yng Nghlwb Ifor Bach
Er bod Breichiau Hir wedi ffurfio ers sawl blwyddyn bellach, ‘Hir Oes I’r Cof’ fydd albwm llawn cyntaf y grŵp roc trwm o Gaerdydd.
Bydd y chwechawd yn cynnal gig lansio arbennig yng Nghlwb Ifor Bach ar nos Sadwrn 20 Tachwedd, gyda chefnogaeth False Hope For The Savage.
Ar ôl rhyddhau eu EP gyntaf ‘Mae’r Angerdd Yma Yn Troi Yn Gas’ yn 2015, mae’r band wedi rhyddhau sawl sengl yn cynnwys ‘Mewn / Halen’ (2018), ‘Portread o Ddyn yn Bwyta Ei Hun’ (2018), ‘Penblwydd Hapus Iawn’ (2019), ‘Yn Dawel Bach / Saethu Tri’ (2019), ‘Preseb o Ias’ (2020) ac yn ddiweddar eu cover o’r gân eiconig gan Bryn Fôn ‘Y Bardd O Montreal’ (2020).
Mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i’r sengl ddwbl, ‘Mwynhau / Ofni Braidd’ a ryddhawyd fel tamaid i aros pryd nes yr albwm ganol mis Hydref.
Mae modd rhag-archebu’r albwm ers hynny hefyd, gan gynnwys fersiwn feinyl coch. Yn anffodus, oherwydd problemau cynhyrchu feinyl byd eang fydd y copïau feinyl ddim yn cyrraedd cwsmeriaid nes mis Ebrill 2022.
Mae fideo wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd â’r sengl newydd ac mae modd gwylio hwn ar sianel YouTube Recordiau Libertino.
Dyma’r Fid: