‘Bron yn Ddydd Nadolig’ gan Lowri Evans

Mae Lowri Evans wedi rhyddhau ei sengl Nadolig ddiweddaraf ers ddydd Gwener diwethaf, 10 Rhagfyr. 

‘Bron yn Ddydd Nadolig’ ydy enw’r fersiwn Gymraeg o’r sengl, ac mae fersiwn Saesneg hefyd sef ‘Not Long Till Christmas’. 

Nid peth anarferol yw gweld trac Nadoligaidd gan Lowri – dyma fydd y seithfed sengl Nadolig iddi ryddhau dros y blynyddoedd.  Mae’r senglau wedi amrywio o ganeuon Blues, caneuon myfyriol a chaneuon gyda neges mwy ddifrifol am gyfnod y Nadolig.

Ar gyfer ei hymdrech yn 2021, mae Lowri wedi penderfynu rhyddhau cân bop sy’n llawn o hwyl.

Mae’r sengl yn sôn am amser hudol Nadolig, sut mae plant yn llawn cyffro a sut mae rhieni’n ymdrechu i geisio ymdopi gyda phopeth! 

Mae Lowri yn dod o Drefdraeth, Sir Benfro ac yn gyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd Cymru fel artist dwyieithog sydd wedi bod yn ysgrifennu, perfformio a recordio ers amser maith. 

Mae bellach wedi rhyddhau 7 albwm, y diweddaraf yn 2021 gyda Tom McRae ac mae hi’n gweithio ar rhyddhau EP yn 2022 fel un hanner o’r band Tapestri, sef prosiect mae wedi ffurfio ar y cyd gyda Sera Zyborska.