Mae Papur Wal wedi rhyddhau blas pellach o’u halbwm cyntaf ar ffurf sengl newydd heddiw.
‘Brychni Haul’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan y triawd sydd wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd, a dyma’r sengl olaf i’w rhyddhau cyn i’r albwm lanio ar 8 Hydref.
Amser Mynd Adra ydy albwm cyntaf y grŵp ac mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i ‘Llyn Llawenydd’ a ryddhawyd ddiwedd Gorffennaf ac ‘Arthur’ a ryddhawyd fis Awst.
“Dyma ein hymgais ar ysgrifennu cân wedi’i ddylanwadu gan y Beatles cynnar” eglura Ianto Gruffydd, canwr a gitarydd Papur Wal.
“Roedd diwedd Haf 2020 yn amser rhyfedd i ni, roedd bywyd fel petai’n mynd yn ôl i ryw raddau o normalrwydd, symudon ni allan o’n tŷ a symudodd pob un i mewn gyda’n cariadon.
“Roedd hyn yn nodi rhyw fath o aeddfedrwydd, ond hefyd cyfnod o addasu ac anawsterau. Ceisiais ysgrifennu’n fwy toreithiog am arsylwi a myfyrio am bethau oedd yn digwydd yn y fan a’r lle.
“Neges gyffredinol y gân yw, dim ots pa mor wael all bethau fod, rydych chi’n aml yn cael amser gwell nag eraill a dylech chi fod yn cyfri’ch bendithion am hynny.”
Bach o Lou Reed wedi’i gymysgu efo’r Beatles
Triawd power pop yw Papur Wal, sy’n wreiddiol o Ogledd Cymru ond wedi sefydlu yng Nghaerdydd yn 2017.
Fel myfyrwyr yn y brifddinas daeth Ianto (llais/guitar), Gwion (llais/bas) a Guto (llais/dryms) at ei gilydd a daethant yn awyddus iawn i ddechrau troi eu hobsesiwn gyda cherddoriaeth yn allbwn creadigol. Gwnaethant hynny dros y blynyddoedd a ddilynodd trwy gigio, rhyddhau senglau ac EP, yn nodweddiadol o’r genhedlaeth newydd o artistiaid anhygoel yn y brifddinas.
Mae Papur Wal yn cyfuno dylanwadau slacyr di-gyfaddawd gydag alawon pop heintus i ffurfio mosäig cerddorol sy’n hyfryd o amrwd. Yn gyfansoddiad sy’n un rhan Beatles cynnar, a’r rhan arall fel Lou Reed yn cyfleu ei holl erchylltra angerddol. Yr hyn sy’n uno eu caneuon o dan haenau diddiwedd o harmonïau a fuzz yw ei dyhead pybyr i wisgo eu calonnau ar eu llewys.
Mae’r grŵp wedi ffurfio partneriaeth hirdymor llwyddiannus gyda’r cynhyrchydd Krissy Jenkins, ac ar y cyd maent wedi llwyddo i greu albwm emosiynol ‘coming of age’ gydag Amser mynd Adra. Mae’r albwm yn trafod aeddfedu i gyfnod yr 20au-canol sy’n ymddangos yn wrthrychol fwy llwm, oddi wrth gyfnod mwyaf cyffrous eich bywyd.
Yn ôl Ianto mae’r albwm yn trafod “symud i ffwrdd o fyw efo’ch ffrindiau i weddill eich bywyd, ofn methu allan, argyfwng dirfodol dyddiol, euogrwydd peidio gwybod beth i’w wneud nesaf, a’r ffordd newydd o fyw eich bywyd sy’n ei gwneud hi’n anoddach gwneud y pethau oeddech chi’n eu gwneud cynt.”
Roedd cyfle i weld Papur Wal yn perfformio’n fyw mewn gig yn CWRW (The Parrot gynt), Caerfyrddin nos Wener diwethaf.