Bwncath yn rhyddhau fersiwn o drac Vanta

Mae’r grŵp Bwncath wedi rhyddhau fersiwn newydd o’r gân ‘Pen y Byd’, cân a ryddhawyd yn wreiddiol gan y grŵp Vanta.

Mae’r fersiwn newydd o’r trac wedi’i ryddhau ar label Recordiau Fflach, ac mae’n rhan o brosiect i ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu’r label hwnnw.

Sefydlwyd y label ym 1981 gan y brodyr Wyn a Richard Jones o’r grŵp Ail Symudiad.

Yn anffodus bu’r ddau farw o fewn mis i’w gilydd ar ddechrau’r haf, ond cyn hynny roedd Richard wedi gofyn i nifer o artistiaid ddewis cân o ôl-gatalog Fflach i wneud fersiwn cyfyr ohonynt.

Un o’r rhain oedd Elidyr Glyn o Bwncath, ac fe ddewisodd ‘Pen y Byd’ gan ei fod yn hoff iawn ohoni pan oedd yn iau.