Cadarnhad bod Sister Wives yn ymuno â Libertino

Ar ôl cydweithio gyda’r label i ryddhau fersiwn o’r trac ‘Rwy’n Crwydro’ yn gynharach eleni, mae Sister Wives bellach wedi cadarnhau’n swyddogol eu bod wedi ymuno â label Recordiau Libertino.

Mae’r grŵp wedi rhyddhau cynnyrch gyda labeli eraill cyn hyn, gan gynnwys y sengl ddwbl ‘Crags / I Fyny Af’ ar label Delicious Clam ddiwedd mis Chwefror.

Er hynny roedd awgrymu eu bod yn bwriadu gweithio’n agosach gyda’r label o Gaerfyrddin, Libertino, a bellach maent wedi cadarnhau eu bod wedi ymuno â’r stabal sy’n cynnwys Adwaith, Kim Hon, Los Blancos a nifer o grwpiau eraill mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd.