Mae fersiwn o un o ganeuon o cerddor o Abergele, Al Lewis, wedi’i chynnwys ar albwm Nadolig newydd Gary Barlow.
‘The Dream of Christmas’ ydy enw’r albwm Nadoligaidd gan y gŵr sydd wedi cael llwyddiant ysgubol fel aelod o Take That, ond hefyd fel cyfansoddwr ac artist unigol.
Dyma’i chweched albwm unigol, ac mae allan ar label enwog Polydor Records.
Mae’r casgliad yn cloi gyda fersiwn Barlow o’r gân Nadolig ‘A Child’s Christmas in Wales’ a ryddhawyd yn wreiddiol gan Al Lewis Band yn 2013.
Mae’r gân wedi’i chyfansoddi ar y cyd gan Al ac Arwel Lloyd (Gildas) ac mae fersiwn Gymraeg ohoni hefyd sef ‘Clychau’r Ceirw’.
Deuawd ydy fersiwn Gary Barlow o’r trac, a hynny gyda Chymro arall sy’n gyfarwydd iawn â chaneuon Nadolig, sef Aled Jones.
Pan ryddhawyd y gân gyntaf, bu i Gary Barlow drydar am ei hoffter o’r trac – “Great song alert ‘a child’s Xmas in Wales’ – Al Lewis”.
Dyma Al yn perfformio’r fersiwn Gymraeg o’r gân ar Heno rai blynddoedd yn ôl: