Cân newydd gan Cai

Bydd y cerddor ifanc o Benygroes, Cai, yn rhyddhau ei drac diweddaraf ar 6 Awst.

Enw’r trac newydd ydy ‘Trio fy Ngora’ ac mae’n ei ryddhau i gyd-fynd â’r Eisteddfod Amgen a chystadleuaeth Brwydr y Bandiau. Bydd Cai yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau eleni, a bydd ei ganeuon  ‘Anghofio am Chdi’ a ‘Mwy na Darn o Bapur’ yn cael eu dangos fel fideos byw ar blatfform digidol Maes B ar 6 Awst, yn ogystal â chael eu chwarae ar BBC Radio Cymru.

Un o’r artistiaid hynny a ddaeth i amlygrwydd gyntaf yn ystod y cyfnod clo ydy Cai, gyda’i drac cyntaf, sef ‘Blaidd (Nol a Nol)’, yn ymddangos ar-lein ym mis Rhagfyr 2020. Roedd cyfle cyntaf i weld y fideo ar gyfer y sengl honno ar wefan Y Selar.

Bu iddo  hefyd rhyddhau’r traciau ‘No! Spiders’ a ‘Gyd yn Iawn’ ar y llwyfannau cerddoriaeth digidol arferol, a hefyd y sengl ‘Anghofio am Chdi’ yn ddiweddarach ym mis Chwefror eleni.

Dywed y cerddor ei fod yn dwyn dylanwad gan nifer fawr o artistiaid indie, pop, roc ac ychydig bach o hip hop, gan enwi Boy Pablo, K. Flay, Easy Life, Jamie T., Oliver Tree, Loyle Carner a nifer o artistiaid eraill ymysg y dylanwadau hyn.

Gwneud bywyd anhygoel

Mae’r sengl newydd, ‘Trio Fy Ngora’ yn trafod pwnc penodol yn ôl y cerddor

“Ma’r gân yn sôn am wneud bywyd anhygoel i chdi dy hun, dim ar gyfer dy hun ond ar gyfer pobl yn dy fywyd” eglura Cai.

Mae Cai wedi gweithio gyda’r gwneuthurwr ffilm Hedydd Ioan o Trac 42 i greu fideos ar gyfer ei draciau yn y gorffennol, ond y tro hwn mae wedi troi at gyfarwyddwr arall, sef Luke Huntly ar gyfer y fideo.

Yn ôl Cai, mae’n chwarae rhan ei fam a’i dad ei hun yn y fideo! Bydd y fideo allan ar yr un diwrnod â’r sengl.