Mae’r grŵp metal/diwydiannol o Fangor, CELAVI, wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol wrth i’w cerddoriaeth gael ei ffrydio dros 700,000 o weithiau.
Rhyddhaodd y ddeuawd, sef Gwion a Sarah, eu EP cyntaf dan yr enw ‘NOVUS” ym mis Awst 2019, gan gyrraedd 250,000 ffrwd mewn llai na blwyddyn.
Wedi hynny fe ryddhawyd y sengl ‘STAIN’ ym mis Hydref 2020 gan ddenu mwy o sylw a gwrandawyr newydd mewn gwledydd sy’n cynnwys Rwsia, Yr Almaen ac UDA.
Yn ôl y grŵp, maen nhw wedi bod yn gweithio tipyn ar gerddoriaeth newydd ac ar fin rhyddhau rhywbeth yn fuan.