Casgliad Afanc allan fis Awst

Bydd albwm cyntaf y label newydd, Afanc, yn cael ei ryddhau fis Awst.

Afanc ydy’r label sy’n cael ei redeg gan y ddeuawd electronig o Aberystwyth, Roughion, ac maent yn canolbwyntio ar gerddoriaeth electro ar is-genre’s amrywiol o fewn hwnnw.

Casgliad aml-gyfrannog ydy’r record hir gyntaf, a dros y flwyddyn ddiwethaf mae Afanc wedi bod yn yn casglu caneuon gan artistiaid amrywiol fydd yn ymddangos ar yr albwm.

“Mae’r un cyntaf [albwm] yn amrywiol tu hwnt” meddai Gwion James o’r label.

“Wrth fynd a chi drwy electro Italo, acid house, deep house, bedroom pop lo fi, vapourwave a footwork.

“Nod yr albwm yma yw i ddod ag artistiaid amrywiol ac arbennig anhysbys i’r brig. Mae oedrannau yr artistiaid yn amrywio o 21-56 ac mae’n llawn hidden gems ni wedi bod yn dal nôl gan nad oes gigs i’w chwarae ynddyn nhw.”

Dyddiad rhyddhau’r casgliad aml-gyfrannog, ‘Various Artists #1’ ydy 4 Awst, a bydd yn cael ei ryddhau’n ddigidol yn unig.

Rhestr traciau ‘Various Artists #1’ gan Afanc

Hot For You – Stiff Jeff

Armchair Anarchy – Fatty Acid

Leaves – Saudade Nights

Popeth yn Cancelled ond am Maes B – Sachasom

Selling My Kisses – Meatwad5000

Yn y Galeri – A487