Mae cantores o’r canolbarth, Catrin O’Neill, wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 22 Hydref.
‘Tyddyn y Gwin’ ydy enw’r trac newydd, ac fel sawl artist arall yn ddiweddar mae Catrin wedi mynd ati i ymdrin â’r argyfwng tai mewn rhannau o Gymru sy’n cael llawer o sylw ar hyn o bryd.
Mae Catrin yn byw yn Aberdyfi, sef cymuned lle mae dros 60% o’r tai yno’n ail gartrefi neu dai gwyliau. Mae tai fforddiadwy’n hynod o brin a phobl leol yn gorfod symud o’r ardal er mwyn prynu tŷ.
Mae’r sefyllfa’n adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd mewn sawl rhan arall o Gymru ar hyn o bryd, yn enwedig yng nghefn gwlad, a llawer o’r bobl leol yn teimlo fel dieithriaid yn eu cymunedau. Dyma’r ysbrydoliaeth i ‘Tyddyn y Gwin’
“O’n i’n arfer teimlo mor anobeithiol am yr hyn yr oeddwn yn ei weld yn digwydd i’n pentref hardd” meddai Catrin.
“Ond rwy’n gwrthod eistedd a chrio am hyn mwyach. Yn lle hynny rwyf am ddefnyddio fy nghrefft a’m hegni i greu newid cadarnhaol…”
Yn ystod y cyfnod clo daeth Catrin i gysylltiad â Steve a Clara Wilson ac ynghyd â chriw o bobl eraill oedd â theimladau tebyg, aethant ati sefydlu’r Siarter Cyfiawnder Cartrefi, er mwyn ymgyrchu dros yr argyfwng tai presennol.
Pryderu am ddyfodol iaith a cymunedau
Robat Idris sydd wedi ysgrifennu geiriau ‘Tyddyn y Gwin’ i gerddoriaeth gan Catrin ei hun. Mae’r gân yn tynnu sylw’n benodol at ddeiseb Senedd y Siarter Cyfiawnder Cartrefi – y nod ydy casglu 5,000 o lofnodion ar y ddeiseb erbyn 2 Rhagfyr.
“Ymgais ar ffurf dameg ydi geiriau’r gân i roi blas o’r hyn sydd wedi digwydd i ni yn y Gymru wledig dros y degawdau diwethaf” eglura Robat Idris.
“Gweld ein cymunedau yn chwalu, ein plant yn gadael a’n tai yn mynd allan o’n dwylo – proses sydd wedi cyflymu yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, gan wneud i ni bryderu yn fwy nag erioed am ddyfodol ein hiaith a’n cymunedau.
“Does yna ddim dadansoddi yma, dim cynnig atebion, dim ond cymryd enw dychmygol Tyddyn y Gwin i gynrychioli dadfeiliad mwy eang – rhieni oedrannus efo’u hatgofion a’r plant ym mhedwar ban byd.
“Yn y diwedd does yna ddim byd ar ôl i ddangos fod yna Gymry wedi bwy yno erioed. Daeth cenedlaethau o warchod lle a thir ac iaith i ben mewn amrantiad pan werthwyd Tyddyn y Gwin dan y morthwyl: ‘Arian mewn waled mwy marwol na bwled / Rose Cottage yw Tyddyn y Gwin.’”
Taith ddiddorol
Mae rhyddhau’r sengl yn benllanw blwyddyn heriol yn ôl Catrin O’Neill.
“Mae wedi bod yn daith ddiddorol dros y flwyddyn ddiwethaf” meddai’r gantores.
“O deimlo mor ynysig a heb obaith, i gwrdd â phobl ysbrydoledig ac angerddol a chreu’r Siarter, yna allan o hynny gweld y gân hon yn dod yn fyw, cân sydd wedi ei hysbrydoli gan y cariad a rannwn dros ein cymunedau a’u hiaith.”