Celavi yn croesi miliwn ffrwd

Mae’r grŵp metal/diwydiannol o Fangor, Celavi, wedi croesi’r garreg filltir arwyddocaol o filiwn ffrwd i’w cerddoriaeth.

Celavi ydy prosiect cerddorol Sarah Wynn Griffiths a Gwion Griffiths – mae Sarah yn gyfarwydd am ei gwaith gyda Radio Ysbyty Gwynedd, ond hefyd am sawl prosiect cerddorol arall dros y blynyddoedd.

Rhyddhaodd y ddeuawd eu EP cyntaf dan yr enw ‘NOVUS’ yn Awst 2019 gan gyrraedd 250,000 ffrwd mewn llai na blwyddyn.

Dilynwyd hynny gan y sengl ‘STAIN’ ym mis Hydref 2020 gan ddenu sylw o’r newydd a chyrraedd gwrandawyr ar draws y byd, yn arbennig yn Rwsia, Yr Almaen a’r UDA.

Mae’r grŵp yn paratoi i ryddhau eu EP nesaf yn y dyfodol agos ar label MERAKI.