Cerddorion ifanc yn cyd-weithio i lwyfannu gig rhithiol

Er bod llawer o fandiau ac artistiaid wedi bod ar stop, un cerddor sydd heb fod yn segur o bell ffordd dros y flwyddyn ddiwethaf ydy Dafydd Hedd.

Mae’r cerddor ifanc o Fethesda wedi bod yn cynnal perfformiadau byw ar-lein trwy gydol cyfnod y clo mawr, gan gynnwys ei ‘Galendr Adfent’ personol pan berfformiodd un o’i ganeuon bob dydd ar Facebook Live rhwng 1 a 21 Rhagfyr.

Bu i Dafydd hefyd rhyddhau ei ail albwm, Hunanladdiad Atlas ar 4 Ebrill 2020 pan oedd y cyfnod clo cyntaf yn ei anterth.

A does dim arwydd y bydd yn arafu yn ystod 2021 wrth iddo gyhoeddi manylion ei gig rhithiol cyntaf o’r flwyddyn ar nos Wener 22 Ionawr.

Cymuned o gerddorion ifanc

Bydd y gig i’w weld yn fyw ar gyfrif Instagram Dafydd, sef @dafyddhedd, am 19:00.

Bydd Dafydd yn cyd-weithio gyda cherddor ifanc arall o ardal Caerdydd, Iestyn Gwyn Jones, i lwyfannu’r gig a bydd y ddau yn perfformio 6 o ganeuon yr un.

Er eu bod yn byw ar ddau ben gwahanol o’r wlad, mae lot yn gyffredin rhwng y ddau gerddor ifanc fel yr eglura Dafydd:

“Y ffordd ddaru ni gyfarfod oedd bod ‘na gymuned bron o gerddorion ifanc – rhai fel Manw Lili, Gwydion Outram, Tesni Highes a Gwenno Fôn – ac roedd Iestyn eisoes yn ffrindiau gyda nhw.

“Penderfynom ni fel grŵp i drio creu group chat ar gyfer y criw, a dyn sut ddois i i ‘nabod Iestyn.”

“Mae o’n gwneud llawer o bethau diddorol fel cynhyrchydd, yn samplo synau o’i rewgell i greu cân er enghraifft, ac yn recordio a chymysgu popeth ei hun, yn yr un modd a sut dwi’n gwneud.”

Mwy o gyd-weithio

Mae Iestyn wedi dod i amlygrwydd yn ddiweddar diolch i’r grŵp Facebook ‘Côr-ona’, gan iddo ennill gwobr am y Garol Nadolig Orau (16 oed ac is) a dod yn y ail am y wobr Carol Nadolig Orau gan rywun o unrhyw oedran.

Ac nid yn unig cyd-weithio i drefnu’r gig rhithiol mae’r ddau gerddor ifanc yn ôl Dafydd.

“Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd dros y we ar gân o’r enw ‘Strydoedd’, a dwi wedi do i barchu’r broses anhygoel mae o’n defnyddio i gyfansoddi.”

Er bod Dolig yn hen hanes erbyn hyn, dyma flas o gân Nadolig Iestyn: