Mae’r Selar yn hynod o drist i glywed am farwolaeth David R. Edwards, oedd yn cael ei adnabod gan lawer hefyd fel Dave Datblygu.
Bu farw David yn ei gartref yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos, yn 56 oed.
Roedd y gŵr o Aberteifi yn un o gerddorion pwysicaf, ac eiconau mwyaf cerddoriaeth Gymraeg.
Ffurfiwyd y grŵp Datblygu ganddo ym 1982 gyda’i ffrind ysgol T. Wyn Davies. Ymunodd Pat Morgan ym 1984, a datblygodd y grŵp i fod gyda’r mwyaf arloesol a dylanwadol i ganu yn y Gymraeg.
Er gwaethaf heriau iechyd dros y blynyddoedd, bu i Dave a Pat barhau’n weithgar a gwelwyd adfywiad gan Datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, gyda’r albwm diweddaraf, Cwm Gwagle, yn ymddangos llynedd.
“Un o gewri mawr ein diwylliant cyfoes”
Cyhoeddwyd y newyddion am farwolaeth Dave gan label Datblygu, Recordiau Ankstmusik heno (22 Mehefin) mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Cydnabyddir David fel un o gewri mawr ein diwylliant cyfoes gyda’i dalent unigol fel bardd a cherddor yn gyfrifol am gynnau’r tân sy wedi siapio’r diwylliant cyfoethog rydym yn fwynhau heddiw” meddai’r datganiad gan Anksmusic.
“Ers dyddiau cynnar y Sin Tanddaearol yn yr wythdegau mae bodolaeth Datblygu wedi gwneud hi’n glir fod mwy i gerddoriaeth o Gymru na fersiynau Cymraeg o syniadau Eingl-Americanaidd. Dyma Fardd a oedd yn erbyn Talwrn y Beirdd ac yn benderfynol o ddod â’r diwylliant a cherddoriaeth ‘Sgymraeg’ yn sgrechian i mewn i’r wythdegau a’r oes fodern.
“Mae’r drioleg o albyms pwysicaf y grŵp – Wyau(1988), Pyst(1990) a Libertino(1994) – yn cael eu cydnabod fel pinacl artistig pwysicaf ein diwylliant roc cyfoes. Cyfanwaith a oedd yn gyfrifol am ail ddiffinio perthynas yr iaith Gymraeg gyda diwylliant roc. Llais artistig a lwyddodd i groesi ffiniau a denu cefnogaeth frwd unigolion fel John Peel.
“Ers diwedd y nawdegau mi oedd David wedi bod yn brwydro gyda phroblemau salwch meddwl â oedd yn boenus a hunllefus ar adegau. Braf iawn oedd gweld iechyd David yn gwella a gwych oedd ei weld yn goresgyn ei drafferthion ac yn ail gydio yn ei fywyd yn y ganrif newydd, yn byw yn annibynnol yng Nghaerfyrddin ac yn rhyddhau recordiau unwaith eto fel Datblygu gyda’i gyfaill oes Pat Morgan.”
Cyfraniad Arbennig
Dros y blynyddoedd mae’r Selar wedi bod yn ddigon ffodus o ymwneud â Dave ar sawl achlysur. Yn arbennig felly yn 2016 wrth i ni gyflwyno Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar i Datblygu – y tro cyntaf i ni gyflwyno’r wobr, a Datblygu oedd yn sicr ar frig y rhestr.
Yn anffodus doedd dim modd i Pat fod yn Aberystwyth ar benwythnos y gwobrau, ond roedd Dave yn awyddus iawn i fod yno ac roedd yn barod iawn i gael ei holi gan Griff Lynch mewn sgwrs arbennig, a chofiadwy iawn.
Ar drothwy sgwrs gyda’r cerddor yn Aberteifi yn 2015, ysgrifennodd Uwch Olygydd Y Selar ddarn blog arbennig ar golwg360 am ddylanwad Dave a Datblygu, a cynhaliwyd pôl piniwn i ddewis 5 cân orau’r grŵp.
Heb os, roedd gennym feddwl mawr iawn o David yma yn Y Selar, ac mae ei golled yn un enfawr.
Dyma fideo’r sgwrs ardderchog rhwng Dave a Griff yng Ngwobrau’r Selar, Chwefror 2016, isod.
Cwsg yn dawel Dave x