Corona Logic – record deyrnged newydd i Super Furry Animals

Mae llwyth o artistiaid Cymreig wedi dod ynghyd i ryddhau albwm elusennol newydd sy’n talu teyrnged i un o grwpiau enwocaf a phwysicaf Cymru, Super Furry Animals.

Corona Logic ydy enw’r casgliad newydd unigryw sy’n cynnwys fersiynau newydd o ganeuon y Super Furry’s gan artistiaid fel Adwaith, Los Blancos, Keys, Carwyn Ellis, The Gentle Good, Carys Eleri, Papur Wal a llawer mwy.

Rhyddhawyd yr albwm ddydd Gwener diwethaf, 26 Mawrth, ac mae’n cynnwys 28 o draciau dros ddwy gyfrol.

Mae’r albwm am ddim i’w lawr lwytho, ond mae anogaeth i bawb sy’n gwneud hynny wneud cyfraniad at achos Llamau, sef elusen sy’n mynd i’r afael a digartrefedd ymysg pobl ifanc.

Syniad y dylunydd Jon Mlynarski ydy’r casgliad.

Mae Mlynarski wedi bod yn gyfrifol am gyfres o albyms elusennol yn ystod y clo mawr sydd wedi gweld artistiaid Cymreig yn recordio fersiynau o ganeuon gan grwpiau fel David Bowie, The Beatles a The Velvet Underground.

Y diweddaraf o’r rhain oedd Corona Stardust, sef teyrnged i waith David Bowie. Roedd y casgliad hwnnw’n cynnwys fersiwn o ‘Ashes to Ashes’ gan SYBS.

Mae 28 o artistiaid wedi cyfrannu at y casgliad, gyda phedair ar ddeg o ganeuon ar y naill gyfrol a’r llall.

I gyd-fynd â’r caneuon, mae’r albwm yn cynnwys gwaith celf arbennig gan Pete Fowler, sef yr artist o Gaerdydd, sydd wedi gweithio’n agos gyda’r Super Furry’s trwy gydol eu gyrfa.

Mae’r albwm ar gael i’w lawr lwytho ar Bandcamp, gydag anogaeth i bawb wneud cyfraniad at elusen Llamau.

Dyma fersiwn arddechog o ‘Torra Fy Ngwallt yn Hir’ gan Angel Hotel sydd ar yr ail gyfrol: