Côsh yn noddi crysau pêl-droed merched Bethel

Bydd label Recordiau Côsh yn noddi crysau tîm pêl-droed Merched Bethel ar gyfer y tymor 2021/22.

Gwenno Gibbard Bolton, capten merched Bethel yn ei chrys wedi’i noddi gan Côsh

Dyma’r ail waith i’r label, sy’n cael ei redeg gan y cerddor a chyn bêl-droediwr Yws Gwynedd, noddi’r tîm a bydd logo Côsh yn cael ei weld ar gaeau pêl-droed y gogledd dros y tymor.

Cyhoeddwyd ar ddechrau mis Mawrth llynedd bod Côsh yn noddi’r tîm, ond yn anffodus daeth y clo mawr yn fuan iawn wedyn gan olygu na fu llawer o gyfle i’r merched chwarae yn eu crysau newydd.

Cadarnhawyd yn ddiweddar bod Côsh yn noddi’r tîm eto ar gyfer y tymor 2021/22 ac roedd y merched yn gwisgo’r crysau am y tro cyntaf yn ei gêm  oddi-cartef yn erbyn Airbus UK yn yr ‘Adran North’ ar 5 Medi. Enillodd Bethel y gêm 5-1.

Cic abowt efo Yws

“Fel clwb rydym yn werthfawrogol iawn i Ywain a Recordiau Côsh am noddi tîm pêl-droed y merched ac mae’r gefnogaeth yn golygu llawer i ni fel tîm” meddai Gwenno Gibbard Bolton, capten y tîm.

“Mi ddoth Ywain draw i gael llun gyda’r tim a’r kit, a mi arosodd am kick about bach gyda’r Merched, roedd pawb wrth eu boddau!

“Mae’r tymor wedi cychwyn, a rydym yn edrych ymlaen i wisgo’r cit newydd yn ein gêm cartref cyntaf ar gae Seilo Felinheli, yn erbyn Wrexham dydd Sul 26 Medi!”

Mae Yws yn wyneb cyfarwydd ar gaeau pêl-droed y gogledd ei hun wrth gwrs, ag yntau wedi chwarae i nifer o dimau dros y blynyddoedd gan gynnwys Porthmadog a Chaernarfon yn Uwch Gynghrair Cymru.

Sioned Hughes-Williams, golwr y tîm

Mae’n awyddus felly i gefnogi pêl-droed ar lefel leol, ac fe neidiodd ar y cyfle i helpu Merched Bethel.

“Dwi’n hapus i helpu pêl-droed grassroots mewn unrhyw ffor fedrai a ma’n wych bod Bethel yn cynghrair Adran North flwyddyn yma.

“Dwi’n edrych ymlaen i gael mynd i weld y kit mewn gêm byw yn fuan ar ôl cyfarfod y chwaraewyr mewn sesiwn hyfforddi yn ddiweddar – ma nhw’n griw da a hwyliog a dwi’n falch bo nhw’n arddangos logo Recordiau Côsh.”

Cadwch olwg ar dudalen Facebook CPD Merched Bethel am newyddion diweddaraf a manylion gemau’n tîm.

Prif lun: Yws yn cyflwyno’r crysau i’r tîm, ac yn ymuno am cic abowt.