Mae’r dyddiad cau ar gyfer cronfa gerddoriaeth yr asiantaeth hawliau darlledu, Eos, yn agosáu.
Mae Cronfa Nawdd Eos yn cefnogi cynlluniau fydd yn ysbrydoli cerddorion, cyfansoddwyr, artistiaid, hyrwyddwyr, trefnwyr a chynhyrchwyr o bob rhan o Gymru i gyfrannu i’r diwydiant cerdd.
Mae’r alwad agored am geisiadau am hyd at £1,000 (hyd at 70% o gyfanswm y costau) i gefnogi gweithgaredd yn ystod y 12 mis nesaf ar agor nawr ond yn cau ar ddydd Gwener 9 Gorffennaf.
Mae ffurflenni cais ar wefan Eos.