Mae cynnyrch unigol cyntaf Gwenno Morgan allan heddiw, sef yr EP Cyfnos. Tegwen Bruce-Deans sydd wedi bod yn gwrando ar y record, ac yn sgwrsio gyda Gwenno ar ran Y Selar.
Yn cyfuno addurniadau piano jazz a chlasurol wedi’u hail-ddychmygu trwy lygaid sinematig ac electronig, mae EP cyntaf Gwenno Morgan, Cyfnos, yn ddatganiad artistig hyderus sy’n gwthio ffiniau cerddoriaeth offerynnol boblogaidd Gymreig.
Mae’r artist ifanc yma wedi dod yn enw cyfarwydd i wrandawyr cerddoriaeth Gymraeg yn ddiweddar, gan ryddhau traciau mewn cydweithrediad â rhai o gerddorion mwyaf blaenllaw’r sin ar hyn o bryd, Sywel Nyw a Mared. Ond yma, cawn glywed datganiadau cerddorol Gwenno am y tro cyntaf fel artist unigol, wrth iddi ryddhau ei chyfanwaith cyntaf trwy label recordiau I KA ChING.
Wedi’i hyfforddi fel pianydd clasurol ac yn tynnu ysbrydoliaeth o enwau mawr fel Debussy a Tom Misch, aiff Gwenno â ni o gyfforddusrwydd minimalaidd y lounge jazz-aidd yn ‘Through The Space’ i chwyrlwynt o felodïau electronig ac atmosfferig yn ‘T’.
Byddai’n ddiddorol i glywed fersiynau moel acwstig y traciau hyn heb yr haenau o wahanol arddulliau a dylanwadau, er mwyn cael gwerthfawrogi gwir rym y piano ar ei ben ei hun hefyd. Er mai pum drac yn unig ydy’r EP, yn sicr rydym yn derbyn synnwyr cynhwysfawr o allu’r artist i reoli pegynau’r clasurol a’r electronig, y minimalaidd a’r sinematig, a dod â nhw ynghyd yn feistrolgar i greu cyfanwaith.
Synnwyr o le
Ond un peth sy’n sicr yn gyson trwy gydol Cyfnos, hyd yn oed yn y gwaith celf hefyd, ydy’r synnwyr naturiol o le y mae’r gerddoriaeth yn creu. Sŵn dŵr yn llifo sy’n agor yr EP ar y trac ‘Jasper’, gan greu synnwyr yn syth fod y gerddoriaeth yn gyntefig ac yn dod yn un â’r tir. Wrth i nodau’r synth ddechrau befrio uwchben synau byd natur, eto mae’r gerddoriaeth electronig yn parhau i efelychu’r natur wrth i’r alaw uchel ei thraw ddod yn ddrych i ddiferion o law yn disgyn.
Mae ‘Lloergan’ wedyn yn barhad o’r cyflwyniad hwn i iwtopia naturiol Gwenno, wrth i fforio technegol y piano chwyrlio o gwmpas y meddwl a chymryd y gwrandäwr ar daith o gwmpas y lle. Un o nodweddion gorau’r EP ydy’r ffordd y mae llawer o’r traciau’n disgyn i ffwrdd yn gyflym ar y diwedd, bron fel petai’n deffro’n sydyn o freuddwyd. Dawn Gwenno yw tynnu’r gwrandäwr i fyd arall, dim ond i’w llorio ar y diwedd gan ein hatgoffa mai cerddoriaeth ydoedd wedi’r cwbl.
Lleoliad yn wir a ysbrydolodd ‘Jasper’ a chelf yr EP hefyd, meddai Gwenno.
“Mi gafodd y llun ar glawr yr EP ei dynnu yn Jasper, Canada, pan eshi yno ar wylia gwpwl o flynyddoedd yn ôl” meddai’r cerddor a chynhyrchydd.
“Adlewyrchiad oddi ar ffenest y car ydi o i ddeud y gwir, a dwi’n meddwl ei fod o’n symbol o’r broses o sgwennu’r tracie, wrth edrych yn ôl ar atgofion a ballu. Dwi’n meddwl fod gwrando ar fiwsig yn ystod y gwylia yna’n bendant wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi, gan fod y miwsig yna rŵan wastad yn fy nhynnu nôl i’r llefydd yna, ynghyd â’r atgofion a’r bobol.”
Er mai yng Nghanada y gorwedda gwreiddiau’r EP felly, mae amrywiaeth o lefydd eraill yn amlwg wedi dylanwadu ar ddatblygiad sŵn yr artist hefyd. Mae techneg agoriadol y piano yn ‘Gorwel’ yn debyg i’r arddull rhydd o chwarae’r delyn, gan greu synnwyr o ddisgleirio dŵr y môr gydag edrychiad tua’r gorwel llawn disgwyliadau a gobaith. Ond yn groes i’r natur Gymreig hon, cawn ein plymio i fyd dinesig jazz gyda melodïau pryfoclyd sacs Henry Weekes yn serennu uwchben cyfeiliant y piano yn ‘Through the Space’.
Wedi’i magu yng Ngogledd Cymru ond yn derbyn addysg uwch yn Leeds, lle cyfarfu hi â Weekes, mae bywyd Gwenno ei hun yn adlewyrchu’r cyferbyniad hwn yn ei cherddoriaeth.
“Ma’ mynd i’r Eisteddfoda’ bob blwyddyn yn bendant wedi cael dylanwad ar fy ngherddoriaeth, o ran yr holl gerddoriaeth gwerin, ond hefyd y bandia ym Maes B, fel Sŵnami” eglura Gwenno.
“Roedd dod i Leeds yn agoriad llygad mawr hefyd, gan fod y sin gerddoriaeth yma mor fywiog – lot o jazz, a gymaint o amrywiaeth.”
Gallu bod yn unig
Mae’n rhyfedd sut mae Gwenno yn llwyddo i gynnau cymaint o ddelweddau a chreu synnwyr o le yn ei cherddoriaeth, a hynny heb air o farddoniaeth flodeuog yn gymorth iddi.
Mae’r EP offerynnol yn cynnig persbectif gwahanol i ni werthfawrogi ei cherddoriaeth, wedi iddi gydweithio gyda lleisiau ar ei thraciau a ddaeth allan fis Mawrth. Yn rhydd rhag hualau geiriau, cyniga Cyfnos gyfle i Gwenno gymryd ei cherddoriaeth ar drywydd unigolyddol ei hun. Ond, meddai, weithiau doedd hi ddim mor hawdd â hynny.
“’Odd ’sgrifennu’r EP bendant yn anodd, gan fod y cymeriad a’r stori i gyd angen cael eu cyfleu drwy’r gerddoriaeth yn unig, heb help geiria’.
“Hefyd, ma’ cyfansoddi a chwarae ar ben fy hun yn gallu bod yn unig ar adegau; felly, ro’dd ca’l y cyfle i gydweithio hefo artistiaid fel Sywel Nyw a Mared yn brofiad gwych.”
Yn wir, boed yn artist unigol neu’n rhan o gerddorfa enfawr, diau mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod unig i greu cerddoriaeth ynddi. Wrth i draciau Cyfnos gynnig cyfle i ni’r gwrandawyr ddianc i fyd arall gyda chyfaredd y piano, roedd Gwenno ei hun yn gaeth yn ei hystafell fel pawb arall wrth gyfansoddi. Ond efallai na fyddai’r EP yn tanio’r dychymyg dihangol cystal petai wedi cael ei chyfansoddi’n llawn mewn blwyddyn arferol.
Mae’n amlwg fod Gwenno’n ceisio edrych ar y cyfnod clo fel rhywbeth cadarnhaol i’w cherddoriaeth hefyd, er gwaethaf y cyfyngiadau y mae hi wedi eu profi.
“Ar ôl dod nôl o’r flwyddyn dramor yn Texas [treuliodd flwyddyn yn astudio yn yr UDA], o’n i’n edrych ’mlaen gymaint i chwaraea’n fyw eto yn Leeds efo pobl erill, a neud cysylltiada’ newydd drw’ hynny” meddai.
“Wedi deud hynny, mewn blwyddyn arferol ola yn y brifysgol ’swn i bendant heb gal amser i eistedd lawr a chyfansoddi! Ond ar ôl y pandemig, byswn i’n caru cael cyfle i chwarae’n fyw efo cherddorion erill, a gobeithio gwneud mwy o gyfansoddi a chydweithio – fyse hynna’n rili cŵl.”
Mae Cyfnos felly’n brawf o felodïau cyfareddol allweddau’r pianydd yn camu i ganol y llwyfan am y tro cyntaf. Dyma froliant artist ifanc yn cydio yn y byd modern, eclectig o’i hamgylch a’i droi’n gerddoriaeth bersonol, ond bydol ar yr un pryd. O wrando ar gyfoeth pum trac yr EP, mae’n amlwg fod gan Gwenno Morgan lawer mwy i ddweud wrthym yn y dyfodol. Mae hi’n bell o fod yng nghyfnos ei gyrfa gerddorol, ac edrychwn ymlaen at weld sut y mae hi’n ychwanegu ei chyffyrddiad unigryw hi i’r byd unwaith eto’n fuan.
Llun: Kristina Banholzer
Geiriau: Tegwen Bruce-Deans