Cyfle cyntaf i glywed…’Ci’ gan Derw

Fe fydd y grŵp pop siambr gwych, Derw, yn rhyddhau eu sengl ddiweddaraf  ddydd Gwener yma, 24 Medi, ond rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle i rannu’r trac i’w ffrydio ar wefan Y Selar, cyn unrhyw le arall.

‘Ci’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n ddilyniant i’r EP ‘Yr Unig Rai Sy’n Cofio’ a ryddhawyd ym mis Chwefror eleni, ac a gafodd groeso cynnes.

Prosiec mam a mab oedd Derw’n wreiddiol, sef y gitarydd Dafydd Dabson a’r delynegydd Anna Georgina. Elin Fouladi, y gantores Gymraeg/Iraniaidd ydy’r darn pwysig arall i’r jig-sô Derw – hi sy’n canu i’r grŵp ac mae’n cael ei chefnogi gan  gerddorion eraill amlwg o fandiau Cymreig Zervas a Pepper, Afrocluster a Codewalkers ar y recordiad o ‘Ci’.

Gyda’r sengl newydd mae Anna’n ysgrifennu am ddychweliad yr iselder oedd ar ei sodlau yn ei harddegau a sut mae hi wedi dysgu delio gyda hwnnw’n well.

Mwy am y sengl ar wefan Y Selar erbyn diwedd yr wythnos, ond am y tro, eisteddwch nôl ac ymlaciwch i synau hyfryd Derw.