Cyfle cyntaf i glywed…‘Darganfod y Teimlad’ gan Daf Jones

Dyma ni, ecsgliwsif arall ar wefan Y Selar ar ddechrau blwyddyn newydd – cyfle cyntaf i chi glywed trac newydd o albwm cyntaf Daf Jones.

‘Paid Troi ‘Nôl’ ydy enw record hir gyntaf y cerddor o Fôn ac mae eisoes wedi rhyddhau dwy sengl fel tameidiau i aros pryd dros y misoedd diwethaf sef ‘Diffodd y Swits’ ym mis Medi a ‘Sbardun’ ym mis Tachwedd.

Mae’r albwm allan ddydd Gwener yma, 8 Ionawr, ond heno, ddeuddydd cyn dyddiad rhyddhau swyddogol mae cyfle cyntaf i glywed trydydd trac o’r casgliad, sef ‘Darganfod y Teimlad’.

Yn ôl Daf, ysgrifennodd ‘Darganfod y Teimlad’ ym mis Mehefin 2019 ac mae’r gân yn swnio’n wahanol iawn i lawer o ganeuon eraill y casgliad newydd.

“Mae hon yn gân serch teimladwy” meddai Daf.

“Y gân hiraf ar yr albwm ond dwi’n hoff iawn ohoni – yn enwedig y geiriau. Dwi’n teimlo ei bod yn cynnig rhywbeth gwahanol ac amrywiaeth pellach i’r albwm.”

Er mai’n ddigidol yn unig fydd yr albwm ar gael ddydd Gwener yma, yn ôl y cerddor bydd hefyd yn cael ei ryddhau ar CD yn y dyfodol agos.

Dyma ‘Darganfod y Teimlad’: