Cyfle cyntaf i glywed…’Ddim yn Sant’ gan BOI

Rydan ni’n rhoi tipyn o sylw i BOI yr wythnos hon gan bod eu albwm cyntaf, Coron o Chwinc, allan fory – dydd Gwener 25 Mehefin.

Roedd cyfle cyntaf i weld y fideo o berfformiad gwefreiddiol Rhodri ac Osian o’r grŵp o’r sengl ‘Tangnefedd’ ar y wefan wythnos diwethaf, ac rydym wedi cyhoeddi cyfweliad arbennig gyda Rhodri.

Nawr, mae’n bleser gennym gynnig ecsgliwsif blasus arall, sef cyfle cyntaf i glywed un arall o draciau’r albwm, ‘Ddim yn Sant’.

Mae albwm cyntaf BOI, Coron o Chwinc, allan yn ddigidol ac ar CD ar Recordiau Crwn ar 25 Mehefin.