Cyfle cyntaf i glywed…fersiwn acwstig ‘Gyda Ni’ gan Geraint Rhys

Rydan ni’n ffans mawr o’r cerddor amryddawn o Abertawe, Geraint Rhys, yma yn Selar HQ felly mae’n bleser gennym gynnig premiere bach arbennig ganddo heddiw.

Rhyddhaodd Geraint ei sengl Gymraeg ddiweddaraf, ‘Gyda Ni’ ar ddechrau’r mis, a heddiw rydyn ni’n falch iawn i allu cynnig y cyfle cyntaf i chi glywed fersiwn acwstig newydd o’r trac.

Dyma drac sy’n deyrnged arbennig i ddinas Abertawe, fel yr eglura Geraint…

“Fel rhywun o Abertawe sy’n byw digon agos i’r traeth i gerdded yna, drwy gydol fy oes mae wedi bod yn le i gynnig cysur. Yn enwedig yn ystod y cyfnod clo” meddai’r cerddor.

“Mae cysylltu gyda natur yn mor bwysig i fi a fy lles meddwl. Fi’n lwcus iawn i fyw yn Abertawe, yn agos i’r 5 milltir o fae sy’n ymestyn o’r dociau i’r Mwmblws.

“Pryd bynnag mae bywyd yn teimlo’n drwm mae dianc i’r traeth yn foddion i’r enaid ac felly fe wnes i ysgrifennu’r trac yma i adlewyrchu’r rhyddid syml sydd yn dod o weld y môr a’r traeth.”

Mae’n siŵr y byddwch yn cytuno bod y fersiwn yma’n rhoi naws gwahanol, a phersonol iawn i’r gân. Mwynhewch…