Dydd Gwener yma, 15 Ionawr, bydd y cerddor electronig amgen o Sir Gâr, Jaffro yn rhyddhau ei albwm newydd.
Ffrog Las ydy enw’r casgliad hir sydd allan yn ddigidol ac ar ffurf CD nifer cyfyngedig (iawn!)
Dim ond 15 copi o’r CD sydd ar gael, a rheiny law yn llaw â’r fersiwn digidol ar Bandcamp Jaffro.
Fel rhan o’r lansiad, mae Jaffro’n ffrydio perfformio ar ei sianel YouTube nos fory (Iau 14 Ionawr) am 21:00 – tiwniwch mewn.
Mae’r Selar yn falch iawn o’r cyfle i gynnig ecsgliwsif bach i chi, sef y cyfle cyntaf i glywed teitl drac yr albwm newydd. Bydd cyfweliad bach gyda’r artist ar y wefan ddydd Gwener hefyd felly cadwch olwg am hwnnw.
Dyma ‘Ffrog Las’: