Rydan ni wedi bod yn hynod o gyffrous i glywed yn ddiweddar am Awst, sef prosiect cerddorol newydd Cynyr Hamer sy’n gyfarwydd fel aelod o Worldcub ac We Are Animal.
Mae sengl gyntaf Awst, neu sengl ddwbl i fod yn fanwl gywir, allan ddydd Gwener nesaf, 23 Ebrill.
Ac rydan ni’n falch iawn i allu cynnig y cyfle cyntaf i chi glywed un o’r traciau, ‘Lloeren’, ar wefan Y Selar.
‘Send a Sign to the Satellite’ ydy enw’r ail drac, a bydd y caneuon yn cael eu rhyddhau’n ecsgliwsif ar Bandcamp Awst wythnos nesaf.
Gallwch ddysgu mwy am y sengl a’r prosiect yn ein stori ddiweddar am Awst, neu ciciwch nôl a mwynhau ‘Lloeren’: