Cyfle cyntaf i weld…fideo ‘Boddi’ gan Geraint Rhys

Rydan ni’n hoffi artistiaid bywiog a chynhyrchiol yma yn Y Selar a does dim llawer yn fwy bywiog na Geraint Rhys.

Mae’r canwr-gyfansoddwr o Abertawe fel petai wastad â rhywbeth ar y gweill, ac ar ben hynny mae ganddo wastad rywbeth pwysig a diddorol i’w ddweud yn ei ganeuon.

Er gwaetha’ cyfyngiadau’r cyfnod clo a’r cyfnod rhyfedd sydd wedi dilyn hynny, mae Geraint wedi parhau’n brysur gan ryddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Boddi’ ddydd Gwener diwethaf.

Mae o hefyd yn foi da am fideo, ac mae’n bleser gan Y Selar gynnig y cyfle cyntaf i chi weld fideo ‘Boddi’ heno!

Dyma sengl olaf Geraint yn 2021, ond rydan ni eisoes yn edrych ymlaen i weld beth fydd ar y gweill ganddo yn 2022. Am y tro, mwynhewch fideo egniol ‘Boddi’…