Un o’r bandiau hynny sydd wedi creu argraff fawr yn ystod cyfnod Covid ydy Derw.
Er gwaethaf yr heriau, maen nhw wedi llwyddo i sefydlu eu hunain trwy wneud pethau ychydig bach yn wahanol.
Un o’r dulliau mwyaf llwyddiannus ydy’r fideos maen nhw wedi cyhoeddi i gyd-fynd â’u cynnyrch, ac mae’n bleser gan Y Selar lwyfannu premiere y diweddaraf o’r rhain heno!
‘Ci’ ydy enw sengl ddiweddaraf Derw a ryddhawyd ddiwedd mis Medi, ac i ddilyn hynny maen nhw wedi cynhyrchu fideo arbennig ar gyfer y trac, ac mae’r Selar yn cael y fraint o’r dangosiad cyntaf.
Dyma’r fideo: