Rydyn ni wedi teimlo lot o gariad tuag at y grŵp pop siambr o Gaerdydd, Derw, yma yn Selar HQ yn ddiweddar.
Ac mae rheswm da am hynny wrth iddyn nhw ryddhau eu EP cyntaf, ‘Yr Unig Rai Sy’n Cofio’, ddiwedd Chwefror.
Bu i ni ddal fyny gyda Dafydd ac Elin o’r grŵp am Sgwrs Selar yn ddiweddar gan glywed mwy am yr EP a’r gyfres o fideos roedden nhw’n rhyddhau ar gyfer y caneuon.
Heddiw rydan ni’n falch iawn o gyhoeddi’r diweddaraf o’r fideos arbennig yma, sef yr un ar gyfer y trac ‘Dau Gam’ – sengl gyntaf y grŵp a ryddhawyd fis Mai diwethaf.
Ffilmiwyd y fideo yn stiwdio Acapela ym Mhentyrch yn yr hydref. Mwynhewch…