Heddiw ydy dyddiad rhyddhau sengl newydd Glain Rhys, ac mae’n bleser gan Y Selar gynnig y cyfle cyntaf i chi weld y fideo arbennig ar gyfer y trac.
‘Plu’r Gweunydd’ ydy enw’r sengl newydd sy’n cael ei ryddhau ar label Recordiau I KA CHING.
Daw’r sengl newydd bron dair blynedd ar ôl rhyddhau albwm Glain, Atgof Prin, yn 2018.
Ardal ei magwraeth ger Y Bala ydy’r prif ddylanwad ar y sengl newydd.
“Mae ‘Plu’r Gweunydd’ wedi ei hysbrydoli gan yr ardal o gwmpas fy magwrfa ym Mhenllyn” eglura Glain.
“Blodyn ydi plu’r gweunydd sydd ond yn tyfu mewn mannau garw, ond mae’n flodyn hardd er gwaethaf yr amgylchiadau.”
“Mae’r gân yn trafod y cysur o ddod adre a gweld fod pethau yn dal i fod yr un fath, ac yr un mor wydn yn y bôn â’r blodyn bach gwyn.”
Mae ’na sôn am albwm ar y gweill gan Glain hefyd…mwy am hynny yn y man ond am y tro, mwynhewch y fideo ar gyfer ‘Plu’r Gweunydd’ sydd wedi’i gynhyrchu gan gwmni Amcan. Mwynhewch!