Cyfle cyntaf i weld: Fideo sesiwn byw ‘Tragwyddoldeb’ gan BOI

Wythnos cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, mae’r grŵp newydd cyffrous BOI wedi rhyddhau sengl newydd sy’n dod â dŵr i’r dannedd wrth i ni edrych ymlaen at y record hir.

‘Tragwyddoldeb’ ydy enw’r trac diweddaraf i ollwng gan y grŵp sy’n cynnwys dau o gyn-aelodau Big Leaves, ynghyd â thri cherddor amlwg iawn arall.

Bydd eu halbwm cyntaf, Coron a Chwinc, allan ddydd Gwener nesaf ond yn y cyfamser mae BOI wedi cynnig tamaid arall i aros pryd yn ychwanegol i’r senglau ‘Ribidires‘ a ‘Cael Chdi Nôl‘ sydd wedi ymddangos dros y cwpl o fisoedd diwethaf.

I gyd-fynd â rhyddhau ‘Tragwyddoldeb’ mae’r Selar yn falch iawn i allu cynnig cyfle cyntaf i chi weld fideo sesiwn arbennig o’r trac yn cael ei berfformio’n ‘fyw’ ar lwyfan y Galeri, Caernarfon yn ddiweddar.

Dwi’n siŵr y byddwch chi’n cytuno bod y fersiwn yma, gyda dim ond Osian Gwynedd ar y piano a Rhodri Sion yn canu, yn wirioneddol drawiadol.

Aelodau arall BOI ydy Heledd Mair Watkins (HMS Morris) ar y gitâr fas, Ifan Emlyn (Candelas) ar y gitâr, a Dafydd Owen (Bob, Sibrydion) ar y drymiau.

Mae’r fideo wedi’i greu gan Rhys Jenkins

Mae’r albwm Coron a Chwinc gan BOI allan ddydd Gwener nesaf, 25 Mehefin – gallwch rag archebu ar safle Bandcamp y grŵp rŵan. Cadwch olwg am fwy o gynnwys am BOI, gan gynnwys cyfweliad arbennig, ar wefan Y Selar dros yr wythnos i ddod!