Mae sengl newydd y cerddor ifanc cyffrous o Benygroes, Cai, allan fory ond mae cyfle cyntaf i glywed y trac, a gweld y fideo swyddogol, cyn hynny yma ar wefan Y Selar heno!
Enw’r trac newydd ydy ‘Trio fy Ngora’ ac mae’n ddilyniant i’r traciau cyntaf a ymddangosodd ganddo nôl ym mis Rhagfyr.
Mae’r sengl yn cael ei rhyddhau i gyd-fynd â pherfformiad Cai fel rhan o gystadleuaeth Brwydr y Bandiau Eisteddfod Amgen heddiw – bydd yn perfformio ei ganeuon ‘Anghofio am Chdi’ a ‘Mwy na Darn o Bapur’ fory, 6 Awst, fel rhan o’r gystadleuaeth honno.
Mwy am y sengl newydd yn ein darn newyddion a gyhoeddwyd wythnos diwethaf, ond manteisiwch ar y cyfle isod i weld y fideo.
Mae’r fideo wedi’i greu gan y cyfarwyddwr Luke Huntly.