Cyfle i artistiaid chwarae yn  FOCUS Wales

Mae gŵyl FOCUS Wales yn Wrecsam wedi agor y cyfle i artistiaid berfformio yn y digwyddiad yn 2022.

Gŵyl showcase ryngwladol ydy FOCUS Wales sydd wedi tyfu mewn maint a statws dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ogystal ag arddangos perfformiadau cerddorol gan artistiaid o Gymru a llawer o wledydd eraill, mae’r ŵyl hefyd yn cynnal nifer o sgyrsiau diwydiant cerddoriaeth a gweithgareddau perthnasol arall.

Bu’n rhaid gohirio’r ŵyl yn 2020 o ganlyniad i’r pandemig, ond roedd yn ôl mewn lleoliadau amrywiol yn nhref Wrecsam ar ddechrau mis Hydref eleni.

Bydd yr ŵyl yn symud yn ôl i’w dyddiad arferol ym mis Mai yn 2022, a hynny ar benwythnos 5-7 Mai. Mae addewid o berfformiadau gan 250 o artistiaid cerddorol, ar 20 o lwyfannau gwahanol.

Nawr mae’r trefnwyr yn gwahodd artistiaid i wneud cais am slot perfformio yn yr ŵyl, gyda chroeso i unrhyw un o unrhyw genre cerddorol, o unrhyw ran o’r byd ymgeisio.

Mae modd gwneud hynny trwy gwblhau ffurflen gais ar wefan FOCUS Wales, gyda’r dyddiad cau i geisiadau ar 17 Ionawr 2022.