“…oeddan ni isio i bobl gael syniad o sut fysa ni’n edrych a swnio’n fyw, a gweld bod ni actually yn fand go iawn”
Geiriau Dafydd Dabson, gitarydd a chyfansoddwr caneuon y grŵp Derw wrth drafod pam eu bod nhw wedi penderfynu ffilmio fideos ar gyfer rhai o draciau eu EP cyntaf, Yr Unig Rai Sy’n Cofio, yn stiwdio Acapela yn yr hydref.
A hwythau wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, ‘Dau Gam’, ar 1 Mai yng nghanol y clo mawr cyntaf hwnnw yn 2020, mae’n rhyfeddol bod Derw wedi llwyddo cystal i osod eu stamp dros y misoedd diwethaf.
Ond does dim amheuaeth eu bod nhw’n un o’r nifer o artistiaid sydd wedi gwneud y mwyaf o’r amgylchiadau, a llwyddo i sefydlu eu hunain er gwaethaf cyfyngiadau Covid.
Bu’r Selar yn ddigon ffodus i ddal Dafydd ac Elin o’r grŵp am sgwrs ar gyfer podlediad diweddaraf Sgwrs Selar yn gynharach yn yr wythnos, gan ddysgu mwy am y fideos yma.
Rydan ni hefyd yn ffodus iawn i allu cynnig y cyfle cyntaf i chi weld y fideo ar gyfer y trac ‘Mikhail’…ac fel y gwelwch chi, maen nhw’n sicr actually yn fand go iawn!