Cyfleoedd gwirfoddoli yng Ngŵyl Sŵn

Mae Gŵyl Sŵn wedi rhoi galwad am geisiadau gan bobl sy’n awyddus i wirfoddoli yn yr ŵyl eleni.

Bydd yr ŵyl yn dychwelyd i leoliadau amrywiol yn y brifddinas eleni, er y bydd hynny ar raddfa ychydig yn llai yn dilyn y pandemig.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar Heol y Fuwch Goch (Womanby Street) ar benwythnos 15-17 Hydref.

Mae’r trefnwyr yn cynnig cyfle i wirfoddolwyr gyfrannu at y digwyddiad gyda chyfleoedd marchnata, cynhyrchu, gwasanaeth cwsmer neu gyswllt artistiaid. Mae angen i unrhyw un sydd â diddordeb lenwi ffurflen ar-lein syml.