Heno (3 Chwefror) cyhoeddwyd rhestrau 3 Uchaf tri arall o gategorïau Gwobrau’r Selar eleni ar raglen Radio Cymru Lisa Gwilym.
Cyhoeddwyd y rhestrau tri uchaf cyntaf ar raglen Sian Eleri neithiwr, sef Gwaith Celf Gorau, Artist Unigol Gorau a Band neu Artist Newydd Gorau.
Y tair rhestr ychwanegol sydd wedi eu cyhoeddi bellach ydy Record Fer Orau, Seren y Sin a Cân Orau, a noddir gan PRS for Music.
Dyma’r 3 Uchaf ar gyfer y categorïau yma:
Cân Orau (Noddir gan PRS for Music)
Pob Nos – Yr Eira
Hel Sibrydion – Lewys
Pontydd – Mared
Record Fer Orau
Ynys Araul – Ani Glass
Dim ond Dieithryn – Lisa Pedrick
Pastille – HMS Morris
Seren y Sin
Mared
Sarah Wynn Griffiths
Osian Huw
Williams
Cyhoeddwyd heno hefyd y bydd enillydd y categori arbennig eleni, Gwobr 2020 a noddir gan Heno, yn cael ei ddatgelu ar raglen Lisa wythnos nesaf.
Mae tair rhestr 3 Uchaf ar ôl i’w cyhoeddi eto sef Fideo Gorau (Noddir gan S4C), Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd) a Band Gorau. Bydd rhain yn cael eu datgelu ar raglen Huw Stephens ar BBC Radio Cymru nos fory, 4 Chwefror.