Bydd cyfres o weithgareddau’n cael eu cynnal ar-lein ddydd Gwener, 5 Chwefror, er mwyn nodi’r chweched diwrnod Dydd Miwsig Cymru.
Mae’r gweithgareddau’n ystod y dydd yn cynnwys setiau acwstig a DJ, ynghyd â chyfweliad arbennig gyda’r actor Hollywood, Rhys Ifans, am y gerddoriaeth Gymraeg sydd wedi helpu siapio ei fywyd.
Mae Dydd Miwsig Cymru (dydd Gwener 5 Chwefror 2021) yn dathlu pob ffurf ar gerddoriaeth Gymraeg, o indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica i hip hop, a phopeth yn y canol.
Gyda’r byd yn dal i frwydro pandemig y coronafeirws, a ffans cerddoriaeth yn methu mynd i berfformiadau byw, mae dathliadau Dydd Miwsig Cymru yn symud ar-lein gyda gigs, fideos a thraciau’n cael eu lansio ar wefan diwylliant Cymreig AM.
HMS Morris fydd yn dechrau’r dydd am 14:00 gyda set o CULTVR LAB.
Yna bydd modd mwynhau synau electronig, dawns ac R&B Eädyth am 16:00, a hynny o Theatr Ffwrnes yn Llanelli, yn y darllediad diweddaraf ‘Yn Fyw o’r Ffwrnes. Fel rhan o’r set bydd Eädyth yn perfformio ei sengl newydd, ‘Dreaming / Breuddwydio’, am y tro cyntaf.
Bydd sgwrs awr o hyd rhwng Rhys Ifans a chyflwynydd y BBC Huw Stephens yn cael ei ddarlledu ar wefan AM am 19:00, lle bydd yr actor yn diolch i’r cyfnod clo am roi amser iddo “ailddarganfod agosatrwydd at fiwsig Cymraeg” roedd wedi anghofio amdano.
Mae Rhys a Huw yn rhannu eu hoff adegau personol gyda miwsig Cymraeg, o gyflwyno ffrindiau pync-roc Gwyddelig i Datblygu, i gig Super Furry Animals ym Mhontypridd yn 1995 a chwrdd â Howard Marks yn annisgwyl, cyn i Rhys ei chwarae mewn addasiad ffilm o’i fywyd, ‘Mr Nice’.
Yna am 20:00 yn Stiwdio Sain yn Llandwrog, bydd Osian Huw Williams o’r band Candelas, Lewys Wyn o’r Eira, a’r gantores Mared Williams i gyd yn perfformio setiau acwstig.
Digwyddiad olaf dathliad Dydd Miwsig Cymru eleni fydd set DJ gan y ddeuawd electronig o Aberystwyth, Roughion, am 21:00. Bydd gweithgareddau’r dydd hefyd yn cynnwys perfformiadau ar-lein gan Alffa, Gwilym a Mellt.
Mae Dydd Miwsig Cymru’n rhan o’r nod hirdymor i weld miliwn o bobl yn siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg erbyn 2050.
Dyma be sy’n digwydd i gyd:
- Anwybyddu
- Dysgu
- Nôl
- Nesaf