Cyhoeddi artistiaid prosiect Forté 2021

Mae cynllun ‘Forté, sy’n helpu cefnogi datblygiad cerddorion newydd yn Nghymru, wedi cyhoeddi enwau’r artistiaid y byddan nhw’n gweithio gyda hwy yn 2021.

Mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth amrywiol gan gynnwys gweithdai a mentoriaid i weithio gyda’r artistiaid.

Mae dau artist Cymraeg wedi eu cyhoeddi ymysg y 9 fydd yn cael cefnogaeth eleni sef y grŵp Lewys a’r gantores Mari Mathias.

Yr enwau eraill ar y cynllun eleni ydy Aderyn, Kingkhan, Elina, Demzie, Hemes, Mojo Jnr a The Honest Poet.

Mae’r artistiaid sydd wedi bod ar y prosiect yn y gorffennol yn cynnwys Chroma, Eädyth a Hana2k.

Prif Lun: Mari Mathias