Cyhoeddi Blwyddlyfr Y Selar

Newyddion cyffrous iawn o Selar HQ – rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod Blwyddlyfr cyntaf Y Selar wedi mynd i brint, ac ar y ffordd i aelodau Clwb Selar lefel Basydd ac uwch. 

Dyma flwyddlyfr arbennig sy’n bwrw golwg nôl dros newyddion a chynnyrch cerddorol 2021. 

Er i’r Selar gyhoeddi ‘Llyfr Y Selar’ yn 2017 trwy wasg Y Lolfa, dyma’r tro cyntaf i ni gyhoeddi llyfr sy’n canolbwyntio ar un flwyddyn yn unig, a’r gobaith yw y bydd Blwyddlyfr yn cael ei gyhoeddi’n flynyddol o hyn ymlaen. 

Nid syniad newydd

Mae’r syniad o gyhoeddi blwyddlyfr Y Selar wedi bod yn ffrwtian yng nghefn y meddwl ers sawl blwyddyn, ac rydym yn falch iawn i allu gwireddu’r syniad eleni.

“Ro’n i wrth fy modd gyda phethau fel y blwyddlyfr cylchgrawn pêl-droed, ‘Shoot Annual’, pan i’n iau ac yn cael copi’n anrheg gan Sion Corn neu aelod o’r teulu bob blwyddyn” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.

“Dwi hefyd yn cofio bod blwyddlyfr y cylchgrawn pop, ‘Smash Hits’, yn beth mawr y 1980au a dechrau’r 1990au yn enwedig.

“Ond mae ‘na ddylanwad Cymreig ar y syniad hefyd, sef blwyddlyfr y cylchgrawn pop Cymraeg ‘Sgrech’ oedd yn cael ei gyhoeddi am rai blynyddoedd o 1979 ymlaen.

“Bwriad y llyfr ydy edrych nôl ar yr hyn sydd wedi digwydd dros y flwyddyn. Gyda’r diwydiant yn symud mor gyflym erbyn hyn, a hynny’n bennaf yn ddigidol hefyd, mae’n hawdd iawn anghofio am yr holl newyddion a chynnyrch newydd mewn blwyddyn.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n dathlu bywiogrwydd y sin, ac mae’r blwyddlyfr yn ymgais i grynhoi newyddion a chynnyrch bob mis yn daclus. 

“Gobeithio bydd pobl yn mwynhau pori nôl trwyddo ar ddiwedd y flwyddyn, ac mewn blynyddoedd i ddod.” 

Diolch i aelodau Clwb Selar

Yn ogystal â chrynhoi prif straeon newyddion cerddoriaeth Y Selar, bydd y llyfr yn cynnwys ambell ddarn a chyfweliad estynedig sydd ddim ond wedi eu cyhoeddi ar-lein cyn hyn – pethau allai nifer o ddarllenwyr fod wedi eu methu ar y pryd.  

Nifer cyfyngedig o gopïau o’r blwyddlyfr fydd yn cael eu hargraffu, a bydd rhain ar gael yn ecsgliwsif i aelodau Clwb Selar  ar lefelau ‘Basydd’, ‘Gitarydd Blaen’, ‘Prif Ganwr’ a ‘Rheolwr’. 

“Mae’r diolch i aelodau Clwb Selar am allu creu’r blwyddlyfr mewn gwirionedd – eu tâl aelodaeth nhw sy’n ein galluogi ni i gyhoeddi’r llyfr yn hollol annibynnol heb unrhyw gefnogaeth grant neu wasg” meddai Owain Schiavone.

‘“O ystyried hynny, roedden ni’n meddwl ei bod yn briodol mai dim ond aelodau o’r Clwb fyddai’n gallu cael gafael ar gopi o’r llyfr cyntaf yma. Ond na phoener, mae dal modd i bobl ymaelodi â’r Clwb, a bydd pobl sy’n gwneud hynny cyn diwedd mis Rhagfyr yn derbyn copi personol o’r blwyddlyfr yn y post.” 

Cliciwch isod i ymaelodi â Chlwb Selar nawr – bydd unrhyw aelodau newydd Basydd neu uch cyn diwedd mis Rhagfyr yn derbyn copi o’r Blwyddlyfr yn y post!

Lefelau aelodaeth