Cyhoeddi caneuon Gigs Tŷ Nain

Mae trefnwyr Gigs Tŷ Nain ar hyn o bryd yn cyhoeddi fideos o ganeuon o berfformiadau gan artistiaid y gig cyntaf ar ei sianel YouTube.

Prosiect newydd gan griw o gerddorion ydy Gigs Tŷ Nain gyda’r bwriad o fynd ati i gynnal gigs unigryw dros eu hunain, yn rhithiol yn y lle cyntaf.

Darlledwyd y gig cyntaf  ar YouTube ar Ddydd Calan eleni gyda pherfformiadau gan Elis Derby, Malan, Alffa a Gwilym.

Roedd y gig i’w weld yn llawn am gyfnod byr, ond dros yr wythnos bydd y trefnwyr yn rhyddhau un cân o set pob artist ar eu sianel YouTube.

Mae ‘O Dan Dy Groen’ gan Alffa eisoes ar-lein, ynghyd â ‘Greed’ gan Malan.