Cyhoeddi cyfres sesiynau Diwydiant Cerddoriaeth Maes B

Mae manylion sesiynau diwydiant cerddoriaeth sy’n cael eu trefnu ar y cyd rhwng Maes B, Yr Urdd a Chlwb Ifor Bach wedi cael eu cyhoeddi.

Mae’r sesiynau’n cynnwys rhai penodol yn ymwneud â Chyfansoddi, Dylunio, Cynhyrchu, Ffilmograffeg a Ffotograffiaeth cerddoriaeth, ac yn cael ei harwain gan arbenigwyr yn y meysydd hyn.

Heledd Watkins o’r grŵp HMS Morris fydd yn arwain y sesiynau Cyfansoddi a gynhelir bob nos Lun rhwng 15 Tachwedd a 29 Tachwedd.

Steff Dafydd, sy’n gyfarwydd hefyd am ei waith celf dan yr enw Penglog, fydd tiwtor y sesiynau Dylunio ar nosweithiau Iau rhwng 18 Tachwedd a 9 Rhagfyr.

Bydd y cynhyrchydd electronig, Endaf yn cynnal sesiynau ar gynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth electronig ar nosweithiau Mawrth rhwng 16 Tachwedd a 30 Tachwedd.

Y cyfarwyddwr ffilm a cherddor, Griff Lynch, sy’n gyfrifol am arwain y sesiynau Ffilmograffeg, a hynny ar nosweithiau Mercher rhwng 17 Tachwedd a 1 Rhagfyr.

Ac yn olaf, bydd Siân Adler yn diwtor yn y sesiynau ar Ffotograffiaeth.

Bydd dau slot ar bob noson ar gyfer y sesiynau, un am 18:00 a’r llall am 20:00. Yr eithriad ydy’r sesiynau ffotograffiaeth gyda dim ond un sesiwn am 17:00.

Mae modd cofrestru nawr ar wefan Maes B.

Amserlen Sesiynau

‘Cyfansoddi’ gyda Heledd Watkins: 15/11/21, 22/11/21, 29/11/21 (Sesiwn 1 – 18:00, Sesiwn 2 – 20:00)

‘Dylunio’ gyda Steff Dafydd: 18/11/21, 25/11/21, 09/11/21 (Sesiwn 1 – 18:00, Sesiwn 2 – 20:00)

‘Cynhyrchu a Pherfformio Cerddoriaeth Electronig’ gydag Endaf: 16/11/21, 23/11/21, 30/11/21 (Sesiwn 1 – 18:00, Sesiwn 2 – 20:00)

‘Ffilmograffeg’ gyda Griff Lynch: 17/11/21, 24/11/21, 01/12/21 (Sesiwn 1 – 18:00, Sesiwn 2 – 20:00)

‘Ffotograffiath’ gyda Sian Adler: 15/11/21, 22/11/21 (Sesiwn 1 – 17:00)