Mae label Recordiau Sain wedi cadarnhau dyddiad rhyddhau albwm newydd Kizzy Crawford.
Roedd y canwr-gyfansoddwr dalentog o Ferthyr Tydfil wedi datgelu ar ei chyfryngau cymdeithasol gwpl o wythnos yn ôl bod albwm newydd ar y ffordd ganddi cyn y Nadolig, ond bellach rydym yn gwybod bod yr albwm allan ar 26 Tachwedd.
Rhydd ydy enw’r record hir newydd gan Kizzy a dyma fydd ei hail albwm yn dilyn rhyddhau ‘The Way I Dream’ yn Hydref 2019.
Mae’r gantores hefyd wedi rhyddhau nifer o senglau ac EPs dros y blynyddoedd diwethaf ac mae rhai o’i chaneuon wedi eu cynnwys ar faes llafur Lefel A Cerddoriaeth CBAC.
Fel tamaid i aros pryd nes yr albwm, mae Sain wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y trac ‘Deifio’ ar eu safle Facebook ddydd Gwener diwethaf.
“Nes i ryddhau ‘Dive’ ar fy albwm cyntaf ‘The Way I Dream’ ond o’n i byth yn hollol hapus gyda’r cynhyrchiad” eglura Kizzy.
“Felly cynhyrchais hwn ar gyfer ‘Rhydd’ a dyma yn union sut o’n i isie iddo fe swnio o’r dechre.”
Dyma’r Fid: