Mae’r gantores boblogaidd Bronwen Owen wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs ganddi dros y gwanwyn, gydag addewid bod mwy o ddyddiadau i’w hychwanegu.
Ar hyn o bryd mae lleoliadau’r daith yn cynnwys Theatr Blake ym Mynwy, Theatr Ffwrnes yn Llanelli, Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, Y Lyric yng Nghaerfyrddin, Neuadd Gwyn yng Nghastell Nedd a’r Glee Club yng Nghaerdydd.
Mae manylion llawn y gigs ar wefan Bronwen.