Mae gŵyl gerddoriaeth fwyaf Cymru, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, wedi datgelu manylion cyntaf trefniadau’r digwyddiad ar gyfer 2022. Wedi blwyddyn o saib oherwydd yn pandemig yn 2020, dychwelodd Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn llwyddiannus eleni ac fe fydd yn cael ei chynnal ar 18-21 Awst blwyddyn nesaf.
Fel blas cyntaf o’r arlwy yn 2022, mae’r trefnwyr wedi datgelu enw un o’r headliners cyntaf fydd yn perfformio sef yr enillydd Gwobr Mercury, Michael Kiwanuka.
Dyma fydd y pedwerydd gwaith i Kiwanuka, sydd hefyd wedi’i enwebu ar gyfer gwobrau BRIT a Grammy, berfformio yn yr ŵyl.
Tamaid i aros pryd ydy hyn wrth gwrs, ac yn ôl y trefnwyr bydd y lein-yp llawn yn cael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd.
2022 fydd ugeinfed pen-blwydd yr ŵyl, ac yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr yr ŵyl, Fiona Stewart, maent yn cynllunio “llawer o sypreisys arbennig, a’r parti gorau erioed”.
Mae tocynnau ar gyfer yr ŵyl eisoes ar werth, gyda nifer cyfyngedig iawn o docynnau ‘cyntaf i’r felin’ ar gyfer y penwythnos. Unwaith bydd rhain wedi’u gwerthu bydd tocynnau cyffredinol yn mynd ar werth.