Cyhoeddi fideo ‘Crïo Tu Mewn’ gan Sywel Nyw

Mae fideo ar gyfer  ‘Crïo Tu Mewn’ gan Sywel Nyw a Mark Roberts wedi’i gyhoeddi ar-lein i gyd-fynd â rhyddhau’r sengl.

‘Crïo Tu Mewn’ ydy’r sengl gyntaf mewn cyfres o ddeuddeg mae Sywel Nyw, sef prosiect unigol Lewys Wyn o’r Eira, yn bwriadu rhyddhau yn ystod 2021 gan gyd-weithio ag artist gwahanol ar bob un.

Rhyddhawyd y sengl ar label Lwcus T ddydd Gwener diwethaf, 29 Ionawr, ynghyd â’r fideo sydd wedi’i olygu a chyfarwyddo gan Griff Lynch, gyda chymorth Dafydd Hughes.

Dyma’r fideo: