Mae gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi pa artistiaid fydd yn perfformio yn eu gŵyl rithiol eleni, a gynhelir fis Mai.
O ganlyniad i’r pandemig, cynhaliwyd yr ŵyl yn rhithiol am y tro cyntaf llynedd a dyna fydd y drefn unwaith eto eleni gyda’r gerddoriaeth yn ffrydio’n fyw o Gastell Caerdydd ar 15 Mai, a hynny ar wefan AM.
Bydd 15 o artistiaid yn perfformio yn ystod y digwyddiad, a hynny ar ddau lwyfan sydd wedi’u curadu gan Glwb Ifor Bach. Ymysg yr enwau cyfarwydd sydd wedi eu cyhoeddi mae Geraint Jarman, Mared, Cowbois Rhos Botwnnog, Ani Glass, Gwilym a Breichiau Hir.
Bydd perfformiad hefyd gan fand o Lydaw, EMEZI, diolch i bartneriaeth rhwng Tafwyl a’r ŵyl Lydaweg, Gouel Broadel ar Brezhoneg (GBB).
Ffarwelio â chyfnod caled
Yn ôl yr ymateb i gyhoeddi’r lein-yp, mae’n amlwg bod nifer o artistiaid yn edrych ymlaen yn fawr at gael perfformio.
“Ar ôl blwyddyn dawel, dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddychwelyd i’r castell i chwarae yng Ngŵyl Tafwyl eleni” meddai Ani Glass.
“Mi fydd yn gyfle arbennig i ffarwelio â chyfnod caled ac i ddathlu dechrau newydd i ni gyd.”
Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu’n fyw ar-lein o gartref arferol yr ŵyl flynyddol, gyda’r cyflwynwyr Huw Stephens, Seren Jones a Tara Bethan yn llywio’r cyfan rhwng y perfformiadau.
“Dwi wrth fy modd i gyflwyno Tafwyl am y tro cyntaf gyda Huw a Tara eleni” meddai Seren Jones.
“Mae hi’n fraint i fod yn rhan o’r tîm, i ddarlledu o fy nghartref, Caerdydd, ac i fwynhau ein diwylliant. Ar ôl blwyddyn galed i bawb, dwi’n credu mai Tafwyl yw’r ffordd gorau o ddathlu bywyd yn ail-ddechrau!”
Gweithgareddau eraill
Yn ogystal â’r gerddoriaeth fyw, bydd cyfuniad o drafodaethau, sgyrsiau a gweithgareddau i blant ar raglen fersiwn rhithiol gŵyl Tafwyl eleni.
Ymysg y sgyrsiau mae sgwrs gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru wrth baratoi i fynd i’r Ewros; recordiad arbennig o ‘Beti a’i Phobol’ gyda Sara Yassine’; a lansiad y podlediad LHDT+ cyntaf yn y Gymraeg, ‘Esgusodwch Fi?’.
Mae Tafwyl yn dathlu pen-blwydd yn 15 oed eleni, a’r bwriad yn ôl y trefnwyr ydy adeiladu ar y profiadau newydd a ddaeth yn sgil yr ŵyl rithiol llynedd, parhau i gynnal ei hysbryd croesawgar a chynhwysol, a throi’r her yn gyfle i ddenu cynulleidfaoedd newydd i brofi celfyddyd a diwylliant Cymreig.
Bydd rhai o ddigwyddiadau ffrinj yr ŵyl yn dechrau ar 8 Mai, ac un o’r prif ddigwyddiadau fydd gig elusennol Mind Cymru gydag Eden ar 14 Mai, fydd yn cael ei ddarlledu ar-lein yn fyw o Glwb Ifor Bach.
Bydd gweithgareddau’r ŵyl ar ddydd Sadwrn 15 Mai yn cael eu gwe ddarlledu’n fyw rhwng 10:00 a 21:00 ar wefan AM, ond bydd cyfle hefyd i fwynhau’r uchafbwyntiau mewn rhaglen arbennig ar S4C ar nos Sul 13 Mehefin.